gan E. Wyn James
               Ann Griffiths yw un o ffigurau amlycaf ein bywyd 
                diwylliannol. Hi yw un o feirdd mwyaf Cymru, a’r ferch enwocaf 
                i ysgrifennu barddoniaeth yn y Gymraeg. Tyfodd yn eicon cenedlaethol. 
                Bu mwy o ganu ar ei hemyn ‘Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd’ 
                nag odid yr un emyn Cymraeg arall. Ysgrifennwyd yn helaeth am 
                ei bywyd a’i gwaith, a bu’n destun nofelau, dramâu, 
                a cherddi di-rif. Ar ben hynny, yn y blynyddoedd diwethaf, cafodd 
                sylw cynyddol yn rhyngwladol. Cyfieithwyd ei gwaith droeon i’r 
                Saesneg, ac y mae sawl awdurdod ym myd ysbrydoledd ac emynyddiaeth 
                wedi dadlau ei bod yn ffigur o arwyddocâd rhyngwladol yn 
                y meysydd hynny, a bod ei hemynau i’w gosod ymhlith cerddi 
                mawr barddoniaeth grefyddol Ewrop.
              Mae hyn oll yn gwrthgyferbynnu’n drawiadol 
                â’i dinodedd a’i diffyg amlygrwydd, y tu allan 
                i gylch eithaf cyfyng, yn ystod ei bywyd. Gellir crynhoi prif 
                ffeithiau ei bywyd i ychydig frawddegau. Fe’i ganed yn ‘Ann 
                Thomas’ yng ngwanwyn 1776 yn hen ffermdy unllawr Dolwar 
                Fach, ym mhlwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa, sir Drefaldwyn, tua 
                phum milltir o dref farchnad Llanfyllin. Yn dechnegol yr oedd 
                yr ardal lle ganed Ann yn rhan o blwyf Llanfechain, a oedd tua 
                wyth milltir i’r dwyrain; ond trwy hen drefniant cyfrifid 
                trigolion ei hardal yn blwyfolion plwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa 
                i bob pwrpas, ac yn Eglwys Llanfihangel y bedyddiwyd Ann ar 21 
                Ebrill 1776. Daeth yn feistres Dolwar yn 17 mlwydd oed, yn dilyn 
                marwolaeth ei mam yn Ionawr 1794. Bu farw ei thad ymhen deng mlynedd 
                wedyn, yn Chwefror 1804. Priododd un o’i chyfoedion o’r 
                plwyf nesaf, Thomas Griffiths, yn Hydref 1804 – a dyna paham 
                y galwn ni hi’n ‘Ann Griffiths’, er mai fel 
                ‘Nansi Thomas’ y byddai’n cael ei hadnabod yn 
                gyffredinol gan ei chydnabod yn ystod ei bywyd. Yna, ymhen deng 
                mis, yn Awst 1805, bu farw’n 29 oed, yn sgil geni merch 
                fach, Elizabeth (a aned ar 13 Gorffennaf ac a gladdwyd ar 31 Gorffennaf, 
                bythefnos o flaen ei mam). 
              
                 
                  |  | 
                 
                  | Dolwar 
                      Fach(Llun: R. Brian Higham)
 Codwyd y tŷ presennol ar ôl dyddiau 
                      Ann Griffiths. Tŷ hir, unllawr, to gwellt oedd yr hen 
                      ffermdy.
 | 
              
              Treuliodd Ann ei holl fywyd yn byw yn yr un ffermdy 
                mewn plwyf gwledig yng ngogledd sir Drefaldwyn, ac fe’i 
                claddwyd o fewn tafliad carreg i’r ffermdy hwnnw, ym mynwent 
                Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa, yr eglwys lle y’i bedyddiwyd 
                yn blentyn a lle y’i priodwyd. Ond mae’r braslun moel 
                hwnnw’n cuddio llawer o’r cynnwrf a’r cyffro 
                a’r cyfoeth a nodweddai ei bywyd; oherwydd fel y nododd 
                y Canon A. M. Allchin ar fwy nag un achlysur, nid amhriodol ar 
                sawl ystyr fyddai cymhwyso i Ann Griffiths eiriau Waldo Williams:
              Beth yw byw? Cael neuadd fawr 
                Rhwng cyfyng furiau.
              
                Oes o drawsnewid
                Roedd oes Ann Griffiths, chwarter olaf y ddeunawfed ganrif, yn 
                gyfnod o drawsnewid mawr, yn amaethyddol, yn ddiwydiannol, yn 
                wleidyddol, yn ddiwylliannol ac yn grefyddol. Roedd yn gyfnod 
                o ddeffro mawr. Dyma gyfnod y Chwyldro Ffrengig a’r rhyfela 
                â Ffrainc a gododd yn sgil hynny. Roedd Ann yn 13 blwydd 
                oed adeg y Chwyldro Ffrengig yn 1789, a bu Prydain a Ffrainc yn 
                rhyfela’n ddi-baid am bron y cyfan o’i hoes fel oedolyn. 
                Roedd un o gefnogwyr selog y Chwyldro a’i egwyddorion radicalaidd, 
                William Jones (1726-95), yn byw yn Llangadfan, nid nepell o gartref 
                Ann. Roedd yn Gymro pybyr a fwriadai ar un adeg sefydlu gwladfa 
                Gymraeg yn America, ac yr oedd yn gymaint gefnogwr i egwyddorion 
                radicalaidd nes i’r Llywodraeth drefnu i’w hysbïwyr 
                agor ei lythyrau. Symudai Ann Griffiths mewn cylchoedd llai radicalaidd 
                yn wleidyddol; ond yr oedd y rhyfela â Ffrainc yn fater 
                a bwysai’n drwm arni hi hefyd, fel y gwelwn o’r ffaith 
                y byddai’n mynychu’n ffyddlon gyfarfodydd gweddi yn 
                achos y rhyfel hwnnw. Ac y mae hyn oll yn tanlinellu’r ffaith 
                nad ardal anghysbell a digynnwrf mo ardal Ann Griffiths, er ei 
                bod yn ardal wledig. 
              
                 
                  |  | 
                 
                  | Map o Gymru 
                      yn dangos lleoliad Dolwar Fach(Christine James)
 | 
              
              Mae Dr Enid Roberts wedi pwysleisio nad ardal 
                ddiarffordd mohoni yng nghyfnod Ann. Erbyn ei chyfnod hi yr oedd 
                gwasanaethau coits fawr rheolaidd o Lundain i Gaergybi, o Gaer 
                i Gaerdydd, o Amwythig i’r Bala, ac o Gaer i Aberystwyth, 
                oll yn pasio’n eithaf agos i’w chartref. ‘Mewn 
                gwirionedd,’ meddai Dr Roberts, ‘yr oedd mwy o gyfleusterau 
                teithio i’r cyhoedd nag sydd heddiw.’ Roedd ardal 
                Ann Griffiths, felly, yn un bur agored i ddylanwadau o bob math, 
                a gwelwn holl elfennau deffro mawr y ddeunawfed ganrif, yn economaidd, 
                yn ddiwylliannol, yn wleidyddol ac yn grefyddol, yn effeithio 
                ar Ann Griffiths, ei theulu a’i hardal i ryw raddau neu’i 
                gilydd
              
                 
                  |  | 
                 
                  | Gwlad Ann Griffiths(Christine James)
 | 
              
               Teulu Ann
                Ganed Ann Griffiths i deulu eithaf cysurus ei amgylchiadau, teulu 
                o ffermwyr a oedd yn flaenllaw yn y gymuned leol. Roedd gwreiddiau 
                teuluaidd ei thad, John Evan Thomas, yn ddwfn ym mhlwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa. 
                Ganed mam Ann, Jane Theodore, yn yr un plwyf, ac roedd gwreiddiau 
                ei theulu hithau yn ddwfn yng ngogledd sir Drefaldwyn. Pan briododd 
                y ddau yn Chwefror 1767, aeth John Evan Thomas â’i 
                briodferch i fyw i fferm ei rieni, Tŷ Mawr Dolwar, ac yno 
                y ganed eu dau blentyn cyntaf, Jane yn 1767 a John yn 1769. Yn 
                1770 symudodd y teulu i Ddolwar Fach, ac yno y ganed eu tri phlentyn 
                arall, Elizabeth yn 1772, Ann yn 1776, ac Edward yn 1779.
              Y darlun a gawn o aelwyd Dolwar Fach yw un o deulu 
                agos a chroesawgar, teulu a oedd yn boblogaidd yn y cylch ac yn 
                amlwg ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol yr ardal. Yn ôl 
                pob sôn, yr oedd John Evan Thomas yn ŵr pwyllog, hynaws 
                a diwyd, ac yn uchel ei barch yn y gymdogaeth. Medrai ddarllen 
                ac ysgrifennu, a bu droeon yn un o Wardeiniaid yr Eglwys ac yn 
                un o Oruchwylwyr y Tlodion, swyddi o bwys ym mywyd y gymuned leol 
                yn y cyfnod hwnnw. Ychydig iawn a wyddom am ei wraig, Jane Theodore, 
                ond ymddengys ei bod yn perthyn i rai o deuluoedd cefnog yr ardal. 
              
              
                Brodyr a chwiorydd Ann
                Gweithio gartref ar y fferm fu hanes John, y mab hynaf, ar hyd 
                ei fywyd. Arhosodd yn ddibriod. Bu farw tua deunaw mis ar ôl 
                ei chwaer Ann, a’i gladdu yn Ionawr 1807 ym mynwent Eglwys 
                Llanfihangel. 
              Gweithio gartref fu hanes y mab arall, Edward, 
                hefyd hyd 1801. Priododd yn 1798, a daeth ei wraig, Elizabeth 
                Savage, i fyw i Ddolwar Fach. Yng ngwanwyn 1801, symudodd Edward 
                ac Elizabeth i’w fferm fechan eu hunain ychydig filltiroedd 
                i ffwrdd ym mhlwyf Llangynyw, gan fynd â’u mab bach, 
                John (a aned yn Hydref 1799) gyda nhw – ac mae’n werth 
                cofio fod bachgen bach ar yr aelwyd yn Nolwar Fach rhwng Hydref 
                1799 a gwanwyn 1801, a’i fodryb Ann yn cynorthwyo i’w 
                fagu. Dedfrydwyd Edward Thomas i flwyddyn o garchar yn 1819 am 
                iddo ladd ffermwr arall mewn ffrae. Erbyn hynny roedd ei deulu 
                wedi symud i gymoedd diwydiannol Morgannwg, i ardal Merthyr Tudful, 
                ac yno y bu ef farw yn 1852.
              Ymddengys i Jane, chwaer hynaf Ann, symud i fyw 
                i Lanfyllin tua 1791. Priododd siopwr o’r dref honno o’r 
                enw Thomas Jones, a fu farw yn 1804. Bu hi’n cadw’r 
                siop wedyn, gan drosglwyddo’r busnes yn ei thro i’w 
                hunig blentyn, John (a aned tua 1793, mae’n debyg). Ailbriododd 
                Jane yn 1807 ag Abraham Jones, un o arweinwyr y Methodistiaid 
                Calfinaidd yn sir Drefaldwyn. Symudodd i fyw i ardal Llanrhaeadr-ym-Mochnant 
                yn 1830, lle y bu farw yn 1851. Bu ei mab, John, yn ffigur amlwg 
                ym mywyd tref Llanfyllin, a bu ef a’i fab yntau yn amlwg 
                hefyd yn yr ymgyrch yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg 
                i godi cofgolofn i gofio ei fodryb, Ann, ym mynwent Llanfihangel-yng-Ngwynfa.
              Symudodd Elizabeth, ail chwaer Ann, i blwyf Llangadfan 
                yn 1793, pan briododd Thomas Morris, ffermwr o’r plwyf hwnnw. 
                Bu hi fyw tan 1818, gan fagu llond tŷ o blant; ond er mai dim 
                ond tua phum milltir o bellter oedd rhwng ei chartref a Dolwar 
                Fach, ymddengys fod rhyw ddieithrwch wedi codi rhyngddi hi a gweddill 
                y teulu ac mai ychydig o ymwneud a fu rhyngddynt a hi, o leiaf 
                hyd at farwolaeth ei thad. 
              
                Meistres Dolwar
                Yr oedd dwy chwaer Ann wedi gadael cartref, felly, erbyn marw 
                eu mam yn 1794, gan adael Ann, yn 17 mlwydd oed, yn feistres y 
                tŷ a meistres Dolwar Fach y bu hi o hynny hyd ei marw cynnar. 
                Fel meistres y tŷ, hi a fyddai’n gyfrifol am redeg y 
                cartref a goruchwylio gwaith y forwyn (neu’r morynion, efallai). 
                Hi hefyd a fyddai’n gyfrifol, gyda’r morynion, am 
                drin y llaeth a’r menyn. Byddai’n godro hefyd, mae’n 
                debyg, yn ogystal â chynorthwyo gyda goruchwylion eraill 
                y fferm yn ôl y galw. A byddai un gorchwyl arall yn syrthio 
                i’w rhan yn gyson, sef trin gwlân. Sir Drefaldwyn 
                oedd un o brif ganolfannau’r diwydiant gwlân yng Nghymru 
                yn y cyfnod. Byddai llawer o ffermwyr y sir yn nyddu er mwyn ychwanegu 
                at eu hincwm, ac adeg marw Ann yr oedd gwŷdd, pum tröell 
                a thua phedwar ugain o ddefaid yn Nolwar Fach.
              
                Proffil personol
                A barnu oddi wrth y disgrifiadau o Ann sydd ar gael, gallwn gasglu 
                ei bod yn ferch dalach na’r cyffredin ac yn eithaf mawreddog 
                yr olwg, er yn berson addfwyn o ddod i’w hadnabod. Roedd 
                ganddi wallt hir, tywyll, talcen uchel a thrwyn ychydig yn fwaog. 
                Un lled welw ei gwedd ydoedd, a chanddi fochau gwridog a llygaid 
                disglair. 
              Nid oes llun ohoni ar gael. Llun o’r cerflun 
                o’i phen yng Nghapel Coffadwriaethol Ann Griffiths yn Nolanog 
                sydd ar dudalen gartref y wefan hon; ond delw ddychmygol ydyw, 
                wedi’i seilio ar ddisgrifiadau ohoni. Dywedir bod ei nai, 
                John Jones, Llanfyllin, yn debyg iawn iddi. Mae cysgodlun (silhouette) 
                ohono ef ar gael. Fe’i hatgynhyrchir, ynghyd â lluniau 
                o’i blant ef a rhai eraill o’r teulu agos, yn llyfr 
                David Thomas, Ann Griffiths a’i Theulu (1963), 
                a rhyngddynt gallwn gael eithaf syniad o sut un fyddai Ann o ran 
                pryd a gwedd.
              
                 
                  |  |  | 
                 
                  | Cysgodlun 
                    o John Jones, Llanfyllin, a llun o'i ferch, Margaret Roedd John Jones yn nai i Ann Griffiths. 
                    Yn ôl y sôn, yr oedd yr un ffunud â hi.
 | 
              
              Roedd Ann yn bur eiddil o gorff. Adlewyrchai hynny’r 
                ffaith iddi fod yn bur wan ei hiechyd ar hyd ei bywyd. Byddai 
                mewn gwaeledd yn aml, a dywedir iddi ddioddef dair gwaith o glefyd 
                y cryd cymalau (rheumatic fever) yn ystod ei bywyd. Mae’n 
                bosibl mai dyna fu achos ei marwolaeth, am na allai ei chalon 
                ddal straen geni plentyn oherwydd y niwed a achoswyd i falfiau’r 
                galon gan y clefyd hwnnw. Mae’n bosibl iawn hefyd ei bod 
                yn dioddef o’r darfodedigaeth (tuberculosis) ar 
                y pryd, a bod hynny’n rheswm arall dros ei marwolaeth. Ac 
                mae’n werth nodi mai un o effeithiau’r darfodedigaeth 
                yn aml yw rhoi min ar gyneddfau’r dioddefwr.
              Os oedd Ann yn fregus o gorff, yr oedd yn gryf 
                o feddwl a chymeriad. Y darlun a gawn ohoni yw un o ferch fywiog, 
                afieithus, braidd yn fyrbwyll, un ffraeth a direidus wrth natur, 
                un unplyg, fanwl ac angerddol, un serchog a siriol, ac yn arweinydd 
                amlwg ymhlith ei chyfoedion. Roedd yn ferch alluog, a chanddi 
                feddwl treiddgar a chof eithriadol. Er na chafodd lawer o addysg 
                ffurfiol, medrai ddarllen ac ysgrifennu. Roedd wrth ei bodd mewn 
                ffair a gwylmabsant a noson lawen, ac yr oedd yn arbennig o hoff 
                o ddawnsio.
              
                Magwraeth grefyddol 
                Magwraeth grefyddol a gafodd Ann Griffiths. Yr oedd ei thad yn 
                Eglwyswr cydwybodol a fynychai wasanaethau’r Eglwys yn gyson. 
                Dywedir fod hen gi llwyd yn Nolwar a fyddai’n dilyn ei feistr 
                yn ffyddlon i wasanaeth yr Eglwys yn Llanfihangel ar fore Sul, 
                gan orwedd yn dawel o dan y fainc tan ddiwedd y gwasanaeth; ac 
                arwydd o gysondeb tad Ann yng ngwasanaethau eglwys y plwyf oedd 
                i hynny fynd yn gymaint arferiad gan y ci fel y byddai’n 
                mynd yno bob Sul yn rheolaidd, hyd yn oed pe na bai aelod o’r 
                teulu yn bresennol! 
              Byddai John Evan Thomas hefyd yn cynnal addoliad 
                hwyr a bore ar yr aelwyd – ‘y ddyletswydd deuluaidd’ 
                fel y’i gelwir – gan ddarllen rhannau o’r Llyfr 
                Gweddi Gyffredin yn yr addoliad. Daeth Ann yn ifanc iawn, felly, 
                i gydnabyddiaeth â’r Beibl ac â llenyddiaeth 
                grefyddol aruchel; a gwelir dylanwad hyn ar ei hemynau a’i 
                llythyrau maes o law.
              
                 
                  |  | 
                 
                  | Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa(Llun: John Thomas)
 Codwyd yr eglwys bresennol yn 1862-63.
 Mae cofgolofn Ann Griffiths, a godwyd yn 1864, ar y dde.
 | 
              
              
                Carol ac englyn
                Er mor agos at y ffin â Lloegr yw ardal Ann Griffiths, yr 
                oedd yn ardal drwyadl Gymraeg, ac yn ardal fywiog ei diwylliant 
                yn ystod ieuenctid Ann, yn enwedig ym myd barddoniaeth. Byddai 
                llawer o adrodd ar englynion a chywyddau. Yr oedd mynd hefyd ar 
                y faled a’r anterliwt, a bu’r anterliwtiwr enwocaf 
                un, Twm o’r Nant, yn byw yn yr ardal am ychydig pan oedd 
                Ann yn ferch fach. 
              Roedd bri arbennig ar garolau yn yr ardal, carolau 
                haf a charolau plygain yn arbennig. Rhyw fath o bregethau ar gân 
                oedd y carolau plygain, mewn mesurau cymhleth ac yn llawn ymadroddion 
                beiblaidd. Fe’u lluniwyd i’w canu yng ngwasanaeth 
                y plygain yn gynnar ar fore’r Nadolig. Er eu bod yn rhoi 
                sylw i enedigaeth Crist, olrhain yr iachawdwriaeth yng Nghrist 
                o’i dechrau i’w diwedd yw eu prif thema, gan ddechrau 
                yn aml yng Ngardd Eden, a diweddu gydag anogaethau i ffydd ac 
                edifeirwch a gweithredodd da. Yng ngogledd Maldwyn y bu’r 
                traddodiad o gynnal plygeiniau ar ei gryfaf yng Nghymru, ac y 
                mae ffurf ar y traddodiad yn parhau yn yr ardaloedd o gwmpas Llanfihangel-yng-Ngwynfa 
                hyd heddiw. 
              Yr oedd Ann a’i theulu yng nghanol y bwrlwm 
                diwylliannol hwn. Yn ôl ei chofiannydd, Morris Davies, byddai’r 
                cymdogion yn ymgynnull i Ddolwar Fach i gynnal nosweithiau llawen, 
                lle y byddai canu gyda’r tannau, a dawnsio a chwarae cardiau 
                a dis. Mae Morris Davies yn adrodd hefyd fel y byddai tad Ann 
                yn canu carolau ar yr aelwyd tra byddent wrth eu gwaith yn trin 
                gwlân. Roedd ei thad yn un o nythaid o feirdd lleol, cylch 
                barddol a ffynnai o dan eu hathro lliwgar, Harri Parri (1709?-1800) 
                o Graig-y-gath. Mae rhai o englynion tad Ann wedi goroesi, ac 
                yn ôl pob tystiolaeth, gallai Ann ei hun lunio englyn erbyn 
                ei bod tua deng mlwydd oed. Yng nghasgliad llawysgrifau Cwrt Mawr 
                yn y Llyfrgell Genedlaethol ceir llawysgrif drwchus o farddoniaeth 
                – ‘Llyfr Dolwar Fach’ – sy’n gymysgedd 
                o waith beirdd lleol a gwaith beirdd mwy adnabyddus. Llawysgrif 
                ydyw a fu’n eiddo am flynyddoedd lawer i Harri Parri, Craig-y-gath, 
                ond tua 1796 aeth i feddiant teulu Dolwar Fach, a chawn Ann yn 
                torri ei henw a’i chyfeiriad ar dudalen yn y llawysgrif 
                yn y flwyddyn honno. A gallwn weld olion y diwylliant barddol 
                hwnnw ar ei gwaith maes o law, yn y cyffyrddiadau cynganeddol 
                a’r ymwybod o gydbwysedd llinell sydd yn ei hemynau, ac 
                yn y paradocsau sy’n rhedeg trwyddynt, sy’n ein hatgoffa 
                o’r paradocsau sy’n nodweddu’r carolau plygain 
                hwythau.
              
                ‘Ann y Sais’
                Ardal Gymraeg oedd ardal Ann, ond yr oedd hefyd yn ardal y ffin, 
                yn ardal a fu’n agored iawn i groesffrwythloni diwylliannol 
                o bob math ar draws y canrifoedd. Tua’r gorllewin Cymraeg 
                yr oedd y dynfa gymdeithasol a diwylliannol gryfaf, a llawer o 
                droedio’r llwybrau dros fynydd-dir y Berwyn i gyffiniau’r 
                Bala a Dyffryn Clwyd. Ond, tua’r dwyrain, arweiniai’r 
                un llwybrau i sir Amwythig; ac er mor gryf oedd y dynfa gymdeithasol 
                tua’r gorllewin, yr oedd dynfa economaidd gref i gyfeiriad 
                gwastadeddau brasach Lloegr. 
              Yn un o’i llythyrau defnyddia Ann eglureb 
                sy’n sôn am siopwr yn mynd i Gaer i brynu gwerth £200 
                o nwyddau i’w gwerthu yn ei siop gartref; ac mae’n 
                ddigon posibl y byddai Ann ei hun wedi cyrchu Caer, ac Amwythig 
                efallai, heb sôn am Groesoswallt, yn gwmni i’w chwaer, 
                Jane, a gadwai siop yn Llanfyllin. 
              Mae hanes llafurwr o’r enw John Owen, a 
                oedd yn byw ger Dolwar Fach, yn pwysleisio’r cysylltiadau 
                rhwng ardal Ann a’r dwyrain Seisnig. Fel llawer un arall 
                o’r cyffiniau, byddai John Owen yn mynd bob blwyddyn i weithio 
                i’r cynhaeaf yn sir Amwythig. Un tro dychwelodd oddi yno 
                wedi cael gwraig, ‘Ann y Sais’ fel y’i llysenwid 
                gan drigolion Llanfihangel. Yn ôl y sôn, bu Ann Griffiths 
                yn mynychu ysgol ‘Ann y Sais’ am gyfnod, gan ddysgu 
                darllen Saesneg ac ysgrifennu yno. Er na ddaeth hi erioed yn rhugl 
                yn y Saesneg, mae’n ymddangos bod Ann Griffiths yn gallu 
                rhigymu ychydig yn yr iaith honno, ac ysgrifennu ambell lythyr 
                Saesneg, er nad oes unrhyw enghreifftiau wedi goroesi. A diddorol 
                yw gweld Gwenallt yn awgrymu bod peth dylanwad emynau Saesneg 
                ar ei gwaith.
              
                ‘Sam y Sais’ a Thomas Charles
                Roedd mab ‘Ann y Sais’, Samuel Owen – neu ‘Sam 
                y Sais’ fel y’i gelwid, er ei fod yn Gymro rhugl – 
                yn Fethodist, ac ef a fu’n gyfrifol am gyflwyno Methodistiaeth 
                i deulu Dolwar Fach. Dyma’r mudiad efengylaidd chwyldroadol 
                a ddechreuodd yn ne Cymru yn yr 1730au trwy gyfrwng pobl megis 
                Daniel Rowland, Howel Harris a William Williams o Bantycelyn, 
                ond a oedd erbyn ieuenctid Ann Griffiths yn lledu fwyfwy yn y 
                Gogledd, yn arbennig trwy gyfrwng Thomas Charles (1755-1814), 
                gŵr o’r De – o sir Gaerfyrddin – a ymsefydlodd 
                yn y Bala ynghanol yr 1780au. 
              O’i bwerdy yn y Bala, ac yn enwedig trwy 
                ei ymgyrchoedd cenhadol ac addysgol (ei ysgolion cylchynol, ac 
                yna ei ysgolion Sul), fe ledodd dylanwad Thomas Charles, a dylanwad 
                Methodistiaeth, ar raddfa eang trwy’r Gogledd, nes i ogledd 
                Cymru fynd yn fwy o gadarnle i Fethodistiaeth na’r De maes 
                o law, er mai yn y De y dechreuodd y mudiad – enghraifft 
                o’r De yn cychwyn a’r Gogledd yn cadw, chwedl W. J. 
                Gruffydd! Ac er y gellid dadlau mai un o ganlyniadau’r dylanwadau 
                o du’r dwyrain oedd dyfodiad Methodistiaeth i deulu Dolwar 
                – hynny yw, o gofio mai ‘Sam y Sais’ oedd yn 
                gyfrifol am gyflwyno Methodistiaeth i’r teulu – mewn 
                gwirionedd rhaid edrych tua’r gorllewin Cymraeg, ac yn enwedig 
                dros fynydd-dir y Berwyn i’r Bala ac at Thomas Charles, 
                i ganfod y dylanwad pennaf ar Ann Griffiths o safbwynt crefyddol. 
              
              Methodistiaeth
                Mudiad oedd Methodistiaeth a roddai bwylais trwm nid yn unig ar 
                gredoau uniongred Cristnogaeth, ond ar brofiad personol ohonynt, 
                ar deimlo gwirioneddau’r Ffydd. Crefydd o wres 
                yn ogystal ag o oleuni ydoedd, ys dywedodd cofiannydd Ann Griffiths, 
                Morris Davies. Hyd 1811 yr oedd y mudiad Methodistaidd yn swyddogol 
                yn fudiad oddi mewn i Eglwys Loegr yn hytrach nag yn enwad ar 
                wahân. Wedi dweud hynny, rhaid pwysleisio bod y Methodistiaid 
                yn ymddwyn yn gynyddol fel enwad wrth i’r ddeunawfed ganrif 
                fynd yn ei blaen, gyda’u harweinwyr eu hunain, eu mannau 
                cyfarfod eu hunain, a’u cyfundrefn annibynnol eu hunain. 
                Byddai aelodau’r mudiad yn cyfarfod mewn cymdeithasau lleol 
                (‘seiadau’) i drin a thrafod eu profiadau ac i dderbyn 
                cymorth a chyngor ar eu taith ysbrydol; yna, ar ben hynny, yr 
                oedd rhwydwaith o gyfarfodydd misol a chymdeithasfaoedd (neu ‘sasiynau’) 
                chwarterol i arolygu’r gwaith. 
              Roedd sasiynau ar wahân ar gyfer de a gogledd 
                Cymru. Byddai’r sasiynau hyn yn symud o le i le, ond o tua 
                1760 ymlaen, yn y Bala y cynhelid Sasiwn y Gogledd bob mis Mehefin. 
                Datblygodd Sasiwn y Bala yn uchel ŵyl flynyddol i Fethodistiaid 
                y Gogledd, a’r miloedd yn tyrru yno i’r cyfarfodydd 
                pregethu cyhoeddus. Roedd i bregethu le canolog yn y mudiad Methodistaidd. 
                Yng nghyfnod Ann Griffiths, crwydrai byddin o bregethwyr Methodistaidd 
                ar hyd a lled y wlad yn pregethu o fan i fan, ac yr oedd oedfaon 
                pregethu cyhoeddus yn rhan anhepgor o arlwy y cyfarfodydd misol 
                a’r sasiynau.
              
                Seiat Pontrobert
              Ffenomen bur gyffredin yn hanes Cymru yw gweld 
                adfywiad diwylliannol ac adfywiad crefyddol yn cydredeg; a dyna 
                a welwn yn ardal Llanfihangel-yng-Ngwynfa yn yr 1790au. Roedd 
                yn gyfnod a welodd fywiogrwydd mawr yno ym myd barddoniaeth, ac 
                yr oedd yn gyfnod hefyd a welodd adfywiad crefyddol grymus, a 
                nifer arwyddocaol o bobl yr ardal yn troi at y Methodistiaid.
              
                 
                  |  | 
                 
                  | Hen Gapel Pontrobert(Llun: R. Brian Higham)
 | 
              
              Cafodd Ann a’i theulu eu hysgubo o flaen 
                grym llif yr adfywiad crefyddol hwnnw. Trodd bron pob un ohonynt 
                yn eu tro at y Methodistiaid, a dod yn aelodau amlwg o’r 
                seiat Fethodistaidd a gyfarfyddai yn yr ardal. Lle o’r enw 
                Pen-llys oedd prif fan cyfarfod y seiat am gyfnod, ond yna wrth 
                i’r seiat dyfu symudwyd y brif ganolfan i Bontrobert, am 
                fod yr ardal honno’n fwy poblog a chanolog, a chodwyd capel 
                yno ar gyfer yr achos yn 1800. Ond byddai’r seiat yn cynnal 
                cyfarfodydd mewn mannau eraill hefyd, gan gynnwys Dolwar Fach. 
                Cofrestrwyd Dolwar Fach yn swyddogol fel lle ar gyfer addoliad 
                cyhoeddus yn haf 1803, ond ymddengys fod y Methodistiaid yn cynnal 
                cyfarfodydd pregethu yno o tua 1798 ymlaen, o tua’r adeg 
                yr ymunodd tad Ann â seiat Pontrobert, efallai. 
              
                Erlid a gwatwar
                Pobl dan wg ac erlid oedd y Methodistiaid a’u crefydd yn 
                ardal Llanfihangel-yng-Ngwynfa yn nyddiau Ann. Arhosai trwch y 
                boblogaeth yn ffyddlon i’r Eglwys Wladol, gan ddirmygu a 
                drwgdybio pob Ymneilltuwr, a phob Methodist yn fwyaf arbennig. 
                Fel llawer o’r beirdd gwlad, yr oedd Harri Parri o Graig-y-gath 
                yn wrthwynebus iawn i Ymneilltuaeth a Methodistiaeth, ac arferai 
                ymosod arnynt ar gân. Weithiau byddai’r erlid yn cymryd 
                gwedd gorfforol. Er enghraifft, trawyd y pregethwr Methodist, 
                Edward Watkin o Lanidloes, â charreg nes peri i’r 
                gwaed ddiferu dros ei Feibl, pan geisiodd bregethu yn yr awyr 
                agored yn Llanfyllin yn 1795. Ond y dull mwyaf cyffredin oedd 
                gwatwar, ac yn ôl y sôn byddai Ann yn barod iawn i 
                ddefnyddio ei doniau siarad i watwar y Methodistiaid. 
              Fel yn achos Harri Parri, yr oedd rhagfarn gref 
                iawn gan deulu Dolwar Fach yn erbyn Ymneilltuaeth a Methodistiaeth; 
                ond fel y nodwyd eisoes, dros ychydig flynyddoedd yn ystod yr 
                1790au daeth bron pob un ohonynt – John y mab yn gyntaf, 
                ac yna Jane, Edward, Ann, a’u tad, John Evan Thomas – 
                yn Fethodistiaid yn eu tro. Yn y broses, troesant eu cefn ar Eglwys 
                Llanfihangel a throi eu cefn hefyd ar adloniant trwch y plwyfolion, 
                adloniant y ffair a’r wylmabsant a’r noson lawen. 
                Ar aelwyd Dolwar Fach, felly, ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, 
                gwelwn ddwy grefydd a dau ddiwylliant yn cyfarfod ac yn ymryson, 
                a’r grefydd efengylaidd a’i diwylliant yn cario’r 
                dydd yn y diwedd. Ac yn hynny o beth y mae Dolwar Fach yn feicrocosm 
                o hanes Cymru yn niwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r 
                bedwaredd ganrif ar bymtheg.
              
                Ann a’r Methodistiaid 
                Profiadau ysbrydol dwys dros gyfnod o tua blwyddyn, pan oedd rhwng 
                20 ac 21 mlwydd oed, a barodd i Ann Griffiths ymuno â’r 
                seiat Fethodistaidd leol. Mae sawl traddodiad ynghylch sut a phryd 
                y daeth Ann i glywed y gweinidog Annibynnol, Benjamin Jones o 
                Bwllheli, yn pregethu yn Llanfyllin, ond y tebyg yw mai fel hyn 
                y bu. Un o brif ffeiriau’r flwyddyn yn Llanfyllin oedd y 
                ffair a gynhelid ar y dydd Mercher cyn y Pasg; ond byddai’r 
                rhialtwch a gysylltwn â ffeiriau o’r fath yn ymestyn 
                dros y Pasg ei hun. Ddydd Llun y Pasg 1796, a hithau bron yn 20 
                oed, aeth Ann i Lanfyllin i ymuno â’r hwyl. Roedd 
                Jenkin Lewis, gweinidog yr Annibynwyr yng nghapel Pen-dref, Llanfyllin, 
                wedi sefydlu cyfres o ‘Gyfarfodydd y Pasg’ i geisio 
                gwrthweithio dylanwad y ffair, ac yn 1796 Benjamin Jones, Pwllheli, 
                oedd y pregethwr gwadd. Trefnwyd cynnal cyfarfod pregethu awyr-agored 
                o flaen y dafarn yng nghanol y dref ar y dydd Llun, ac yn ôl 
                traddodiad, wrth i Ann fynd heibio a chlywed geiriau’r pregethwr, 
                cafodd ei sobreiddio drwyddi. 
              
                 
                  |  | 
                 
                  | Capel 
                      Pen-dref, LlanfyllinUn o'r achosion Ymneilltuol 
                      hynaf yng Nghymru.
 Codwyd yr adeilad presennol yn 1829.
 | 
              
              Ar ôl misoedd o anesmwythyd cydwybod ac 
                ymboeni am ei chyflwr ysbrydol, a methu cael ei bodloni yn Eglwys 
                y Plwyf, penderfynodd Ann fod yn rhaid iddi chwilio yn rhywle 
                arall am ateb. Er bod ei dau frawd, a nifer o’i chyfoedion, 
                erbyn hynny wedi mynd trwy brofiadau tebyg ac wedi ymuno â’r 
                seiat Fethodistaidd leol ym Mhontrobert, yr oedd Ann yn parhau 
                yn rhagfarnllyd iawn yn erbyn y Methodistiaid. Dechreuodd gynllunio 
                mynd i Lanfyllin er mwyn mynychu cyfarfodydd yr Annibynwyr yno, 
                ond cyn i’r bwriadau hynny ddod i ben, aeth i Bontrobert 
                i wrando ar bregethwr Methodist, a chael cymaint o fudd ysbrydol 
                nes gorchfygu ei rhagfarnau yn erbyn y Methodistiaid. Y diwedd 
                fu iddi ymuno â seiat y Methodistiaid ym Mhontrobert, ac 
                ymroi i fywyd y seiat honno a’r mudiad Methodistaid ehangach 
                fu ei hanes wedddill ei bywyd. A daeth y llwybrau dros y Berwyn 
                i’r Bala yn gyfarwydd iawn iddi, wrth iddi fynychu cyfarfodydd 
                pregethu y Methodistiaid yno o dro i dro, a derbyn y Cymun o law 
                Thomas Charles.
              Profiadau dwys
                Yr effaith gyntaf a gafodd fynychu cyfarfodydd y Methodistiaid 
                ar Ann oedd dyfnhau ei hymwybyddiaeth o’r ffaith ei bod 
                ymhell oddi wrth Dduw ac yn methu cyrraedd ei safonau, ac o’r 
                herwydd o dan ei gondemniad. Dywed ei chyfaill a’i chynghorydd 
                ysbrydol John Hughes, a oedd yntau newydd ddod yn aelod o’r 
                seiat ym Mhontrobert pan ddechreuodd Ann ei mynychu: ‘Profodd 
                argyhoeddiadau grymus o’i phechadurusrwydd a cholledigaeth 
                ei chyflwr. Yr oedd awdurdod ac ysbrydolrwydd y ddeddf [sef deddf 
                Duw] yn ymaflyd mor rymus yn ei meddwl hyd oni bu yn ymdreiglo 
                amryw weithiau ar hyd y ffordd wrth fyned adref o’r Bont 
                o wrando y pregethau, gan ddychrynfeydd a thrallod ei meddwl.’ 
              
              Ni bu’n hir yn y cyflwr hwnnw, meddai John 
                Hughes, nes iddi ddod i weld trwy ffydd fod Iesu Grist, yr Un 
                a oedd yn Dduw ac yn ddyn yn yr un Person, wedi cymryd cosb ei 
                phechod hi arno ei hun trwy farw yn ei lle, a thrwy hynny sicrhau 
                iddi faddeuant a chymod tragwyddol â Duw. Ac fel y byddai 
                ei stad golledig yn pwyso mor ddwys arni ar brydiau nes peri iddi 
                ymdreiglo ar hyd y ffordd, felly hefyd, ar ôl iddi ddod 
                i sicrwydd ffydd, byddai ar adegau yn yfed mor ddwfn o lawenydd 
                yr iachawdwriaeth a oedd wedi dod iddi yng Nghrist, nes y byddai’n 
                torri allan ar adegau i orfoleddu, yn gyhoeddus ac yn ei hystafell 
                breifat, a sŵn y gorfoleddu hwnnw i’w glywed amryw gaeau 
                oddi wrth y tŷ yn Nolwar Fach. 
              Roedd yr adeg y cafodd Ann ei thröedigaeth 
                yn gyfnod o adfywiad ysbrydol cyffredinol yn hanes seiat Pontrobert; 
                ond yr oedd y profiadau ysbrydol a gafodd Ann adeg ei thröedigaeth 
                yn rhai arbennig o danbaid, hyd yn oed ar adeg o ddiwygiad. Ac 
                y mae dwyster ei phrofiadau ysbrydol adeg ei thröedigaeth 
                yn rhagflas o angerdd ei bywyd ysbrydol ar ei hyd. Nid oedd profiadau 
                ysbrydol dwys yn ddieithr i rai fel Thomas Charles o’r Bala 
                a John Hughes, Pontrobert. Cafodd y ddau brofiadau ysbrydol mawr 
                eu hunain. Ar ben hynny, roeddynt yn brofiadol iawn mewn materion 
                eneidiol, ac wedi hen arfer â thrin a thrafod pobl a oedd 
                wedi cael profiadau ysbrydol dwfn iawn ar adegau o adfywiad. Ond 
                creodd profiadau ysbrydol Ann Griffiths argraff arbennig iawn 
                ar y ddau hyn, hyd yn oed. Er enghraifft, yn 1840, ac yntau’n 
                65 mlwydd oed erbyn hynny, gallai John Hughes, Pontrobert, ddweud 
                am Ann Griffiths ei bod yn ‘ddynes o gyneddfau cryfach na’r 
                cyffredin o’r rhyw fenywaidd; yr hon hefyd oedd yn disgleirio 
                yn fwy tanbaid ac amlwg mewn crefydd ysbrydol nag un a welais 
                i yn fy oes’.
              Soniwyd eisoes fod ardal Llanfihangel-yng-Nghwynfa 
                yn ardal y ffin ac yn groesffordd ddiwylliannol, a bod Dolwar 
                Fach yn fan cyfarfod dau fath o grefydd a dau fath o ddiwylliant 
                ar gyfnod tyngedfennol yn hanes Cymru. Yng ngoleuni’r profiadau 
                a grybwyllwyd uchod, â Canon Allchin gam ymhellach, gan 
                ddweud fod Dolwar Fach yn nyddiau Ann yn fan cyfarfod amser a 
                thragwyddoldeb, daear a nef.
              
                Gwaith Ann Griffiths
                Cyfrifid Ann, felly, yn berson nodedig am ei phrofiadau ysbrydol 
                hyd yn oed ar adeg o adfywiad ysbrydol grymus. A ffrwyth y profiadau 
                dwys hynny, a mynegiant ohonynt, yw’r enghreifftiau o waith 
                Ann Griffiths sydd wedi eu cadw i ni. 
              Mae cyfanswm ei gwaith yn fach, mewn gwirionedd: 
                wyth o lythyrau ac ychydig dros 70 o benillion. Dim ond un llythyr 
                ac un pennill sydd wedi goroesi yn ei llaw hi ei hun, a’r 
                ddau berson canolog yn y gwaith o ddiogelu ei gwaith yw John Hughes 
                (1775-1854), Pontrobert, a’i wraig, Ruth Evans (1779?-1858). 
              
              
                 
                  |  | 
                 
                  | John Hughes, 
                      Pontrobert (1775-1854)
 | 
              
              Gwëydd ifanc tlawd o’r un plwyf ag 
                Ann oedd John Hughes. Roedd tua blwyddyn yn hŷn na hi ac wedi 
                dod yn aelod o seiat y Methodistiaid ryw flwyddyn o’i blaen. 
                Daeth yn fuan yn arweinydd ifanc addawol ymysg y Methodistiaid 
                Calfinaidd, a bu’n bregethwr dylanwadol iawn yn eu plith 
                am tua hanner canrif. Daeth yn fath o fentor a chynghorydd ysbrydol 
                i Ann Griffiths yn fuan ar ôl ei thröedigaeth, a’i 
                gofiant byr i Ann, a gyhoeddodd yn Y Traethodydd yn 1846, 
                ddeugain mlynedd ar ôl ei marw, yw’r ffynhonnell bwysicaf 
                sydd gennym am ei bywyd a’i chymeriad. 
              Morwyn yn Nolwar Fach oedd Ruth Evans. Un o blwyf 
                Llandrinio ydoedd, ardal sydd yn agos iawn i’r ffin â 
                Lloegr. Roedd ei rhieni ymhlith arloeswyr y Methodistiaid yn y 
                rhan honno o ogledd sir Drefaldwyn a daeth hi ei hun yn Fethodist 
                tua 1791. Daeth yn forwyn i Ddolwar Fach ym Mai 1801, ac arhosodd 
                yno tan ei phriodas â John Hughes ym Mai 1805. Datblygodd 
                cyfeillgarwch arbennig rhyngddi hi ac Ann yn ystod y cyfnod hwnnw. 
                Bu gan John a Ruth Hughes sawl cartref yng nghyffiniau Pontrobert 
                ym mlynyddoedd cynnar eu bywyd priodasol, ond erbyn 1811 yr oeddynt 
                wedi ymsefydlu yn y tŷ bychan sydd ynghlwm wrth hen gapel 
                y Methodistiaid ym Mhontrobert, ac yno y treuliodd y ddau weddill 
                eu bywydau hir. 
              
                Llythyrau Ann
                At John Hughes, Pontrobert yr anfonwyd saith o’r wyth llythyr 
                gan Ann sydd wedi goroesi. Nid yw’r llythyrau gwreiddiol 
                wedi goroesi, ond gwnaeth John Hughes gopïau ohonynt mewn 
                ysgriflyfr yn fuan ar ôl eu derbyn, ac yn ffodus iawn y 
                mae’r llyfr llawysgrif hwnnw bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol 
                yn Aberystwyth.
              Yn lled fuan ar ôl iddo ymuno â’r 
                Methodistiaid, aeth John Hughes yn athro yn ysgolion cylchynol 
                Thomas Charles. Tua diwedd 1799 a dechrau 1800 bu’n cadw 
                ysgol yn ardal Llanfihangel-yng-Ngwynfa, gan letya yn Nolwar Fach 
                am rai misoedd. Tra oedd yno, bu John Hughes (yn ei eiriau ei 
                hun) ‘lawer o weithiau am amryw o oriau ynghyd yn ymddiddan 
                ag Ann am bethau ysgrythurol a phrofiadol, a hynny gyda’r 
                fath hyfrydwch hyd oni byddai oriau yn myned heibio yn ddiarwybod’. 
              
              Gadawodd John Hughes Ddolwar Fach yn 1800, ac 
                o hynny hyd wanwyn 1805, er y byddai’n ymweld yn eithaf 
                cyson ag ardal Llanfihangel a Phontrobert, bu’n cadw ysgolion 
                cylchynol yn ne-orllewin sir Drefaldwyn, yn yr ardal rhwng Machynlleth 
                a Llanidloes. Ac yn y cyfnod hwnnw y cododd yr ohebiaeth rhyngddo 
                ac Ann Griffiths, yn rhyw fath o barhad o’r ‘ymddiddanion’ 
                a fu rhyngddynt ar aelwyd Dolwar. 
              Dyddiad llythyr cyntaf Ann at John Hughes yw 28 
                Tachwedd 1800. Mae’r cyfan ond un o’r chwe llythyr 
                arall yn ddiddyddiad. Cawsant oll eu hysgrifennu cyn i Ann briodi 
                yn Hydref 1804, am mai ‘Ann Thomas’ yw’r enw 
                sydd wrthynt, ac y mae lle i gredu fod y cyfan yn perthyn i’r 
                cyfnod rhwng Tachwedd 1800 a haf 1802. Dim ond un o lythyrau John 
                Hughes at Ann sydd wedi goroesi, a hwnnw’n ddiddyddiad; 
                ond y mai pump o’i lythyrau at Ruth Evans ar gael. Mae’r 
                pump yn perthyn i’r blynyddoedd 1803 ac 1804, pan oedd Ruth 
                yn forwyn yn Nolwar Fach. Mae’n bur sicr y byddai Ann wedi 
                eu darllen hefyd, oherwydd nid llythyrau caru ‘preifat’ 
                mohonynt ond llythyrau ar bynciau ysbrydol. Byddai’n arferol 
                i Ruth eu rhannu ag eraill; a cheir sawl cyd-drawiad diddorol 
                rhwng cynnwys (a hyd yn oed union eiriad) y llythyrau hyn ac emynau 
                Ann. Yn wir, o gymharu gwaith Ann a John yn gyffredinol, gellir 
                cytuno’n galonog ag O. M. Edwards pan ddywed: ‘Yn 
                y blynyddoedd 1800-1805, yr oedd meddwl Ann Griffiths a meddwl 
                John Hughes ar yr un pethau.’
              Mae’r unig lythyr sydd gennym yn llaw Ann 
                ei hun yn llythyr at Fethodist ifanc arall, merch o’r enw 
                Elizabeth Evans a oedd yn forwyn ar fferm Bwlch Aeddan ym mhlwyf 
                Cegidfa (Guilsfield), rai milltiroedd i’r dwyrain 
                o Ddolwar Fach. Mae lle i gredu fod Elizabeth Evans yn chwaer 
                i Ruth Evans, morwyn Dolwar Fach a confidante ysbrydol 
                Ann. Nid oes dyddiad ar y llythyr hwn ychwaith. Oherwydd y dyddiad 
                1801 ar ddyfrnod a oedd i’w weld ar un adeg yn y papur yr 
                ysgrifennwyd y llythyr arno, ac am iddi ei arwyddo’n ‘Ann 
                Thomas’, gallwn ddyddio’r llythyr i rywbryd rhwng 
                1801 a Hydref 1804, ac mae lle i gredu ei fod wedi’i ysgrifennu 
                tua haf 1802. Mae’r llythyr gwreiddiol bellach yn un o drysorau 
                pennaf y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Ychwanegodd Ann 
                y pennill ‘Er mai cwbwl groes i natur yw fy llwybyr yn y 
                byd’ at y llythyr, yr unig un o benillion Ann sydd wedi 
                goroesi yn ei llaw hi ei hun.
              
                Awyrgylch y seiat
                Er na chafodd llythyrau Ann gymaint o sylw â’i hemynau, 
                mae’n bwysig cofio bod rhywun fel Saunders Lewis yn eu cyfrif 
                yn glasuron, a’u bod yn cynnwys darnau o ryddiaith grefyddol 
                nodedig iawn. Yn y llythyrau hyn, yr ydym ar ein pen yn awyrgylch 
                seiadau Methodistaidd ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r 
                bedwaredd ar bymtheg. Y mae ychydig o wahaniaeth naws rhwng y 
                llythyr at Elizabeth Evans a’r rhai at John Hughes. Rhannu 
                ei phrofiadau â ‘chwaer yn yr Arglwydd’ y mae 
                Ann yn y llythyr at Elizabeth Evans; eu rhannu â chynghorydd 
                ysbrydol y mae yn y llythyrau at John Hughes, un sydd yn ‘dad 
                yn yr Arglwydd’ iddi, er nad oedd ond blwyddyn o wahaniaeth 
                oedran rhwng y ddau Fethodist ifanc hyn. Eto, yr un yn y bôn 
                yw cynnwys yr holl lythyrau. Trafod adnodau o’r Beibl, trafod 
                cyflwr ysbrydol seiat Pontrobert a chyflwr crefydd yn gyffredinol, 
                ac uwchlaw pob dim, trafod ei chyflwr ysbrydol hi ei hun – 
                ‘adrodd fy helynt fy hun’– y mae Ann ynddynt 
                i gyd. Mewn gwirionedd, trafodaethau ar bynciau’r seiat 
                gan aelodau’r seiat yn ieithwedd y seiat yw’r llythyrau 
                hyn, ac nid llythyrau sgyrsiol rhwng cyfeillion mynwesol. 
              Nid nad amlygir perthynas gynnes yn y llythyrau, 
                fel y dengys cyfarchiadau megis ‘Annwyl chwaer’a ‘Garedig 
                frawd’ sy’n eu hatalnodi drwyddynt draw; ond y mae 
                eu holl osgo ac ieithwedd yn bradychu’r ffaith mai ymestyniad 
                o ffurfioldeb a chwrteisi’r seiat brofiad sydd yma. Yn wir, 
                mae’n bwysig iawn sylweddoli nad llythyrau cyfrinachol mo’r 
                llythyrau hyn, er mor ingol o bersonol ydynt yn aml, wrth i Ann 
                fynd ati i ddadansoddi ei chyflwr ysbrydol. Dadansoddi manwl y 
                seiat brofiad sydd yma; a byddai Ann yn disgwyl i’w chyd-seiadwyr 
                Methodistaidd ddarllen y sylwadau, yn union fel y byddai’n 
                disgwyl iddynt wrando ar ei chyfraniadau llafar yn y seiat, ac 
                yn union fel y byddai hi yn ei thro yn darllen llythyrau John 
                Hughes at ei brawd ac at Ruth ac at eraill o’r cyfeillion 
                yn seiat Pontobert. Ac yn ôl yr hanes, ar ôl eu derbyn, 
                byddai John Hughes yn darllen llythyrau Ann ar goedd yn y seiat 
                leol yn yr ardal lle’r oedd yn cadw ysgol ar y pryd, ‘er 
                adeiladaeth a chysur yr aelodau’.
              
                 
                  |  | 
                 
                  | Cynllun Hen 
                      Gapel Pontrobert(o Cymru 1906)
 Codwyd y capel yn 1800 ar gyfer seiat leol 
                      y Methodistiaid Calfinaidd.
 Byddai Ann Griffiths yn eistedd ar yr ochr chwith i'r pulpud.
 Bu'r tŷ sydd o dan yr un to â'r capel yn gartref 
                      i John Hughes a Ruth Evans am y rhan fwyaf o'u bywyd priodasol.
 | 
              
              
                Ei hemynau
                Dichon, felly, na fyddai Ann yn poeni’n ormodol pe bai’n 
                gwybod bod ei llythyrau yn cael eu darllen a’u trafod gan 
                bobl heddiw. Ond mater arall yw hi yn achos ei hemynau, oherwydd 
                y pethau preifat iddi hi oedd nid y llythyrau, er mor ingol o 
                bersonol y gallai’r rheini fod ar adegau, ond yr emynau, 
                sydd ar un olwg yn llawer mwy gwrthrychol eu datganiadau. 
              Mae’n debyg y gellir cyfiawnhau galw cerddi 
                Ann Griffiths yn emynau am eu bod yn gerddi mawl ac am eu bod 
                yn gerddi i’w canu; ond yn sicr bendifaddau, nid emynau 
                cynulleidfaol mohonynt. Mae’n amlwg fod Ann yn 
                ymwybodol o arbenigrwydd y profiadau ysbrydol a ddeuai i’w 
                rhan, a’i bod yn ymdeimlo â’r angen i’w 
                cofnodi. Yn ôl John Hughes, Pontrobert, bu’n fwriad 
                ganddi ar un adeg gadw dyddiadur ysbrydol. Yn lle hynny, meddai, 
                dechreuodd gyfansoddi penillion o emynau pan fyddai ‘rhywbeth 
                neilltuol ar ei meddwl’; a cheir sawl hanesyn sy’n 
                awgrymu bod ei hemynau yn gynnyrch cyfnodau o lwyr ymgolli mewn 
                myfyrdod dwys – adegau pan fyddai’n ‘misio yn 
                deg â sefyll yn ffordd fy nyletswydd gyda phethau amser’, 
                fel y dywedodd hi ei hun yn ei llythyr at Elizabeth Evans. Math 
                o ddyddiadur personol yw ei hemynau, felly, yn cofnodi ac yn crisialu 
                ei phrofiadau a’i chanfyddiadau ysbrydol.
              Mae’n wir i rai o’i phenillion fynd 
                yn eiddo i gylch ehangach yn ystod bywyd Ann. Sonnir am rai o’r 
                pregethwyr Methodist a ddeuai i Ddolwar Fach i gynnal oedfaon, 
                yn dysgu rhai ohonynt ac yn eu defnyddio mewn seiadau eraill. 
                Aeth penillion eraill ar led, yn ddiau, mewn llythyrau at gyfeillion, 
                fel yr un yn llythyr Ann at Elizabeth Evans. Bu Ann yn adrodd 
                rhai wrth aelodau o’i theulu; bu’n adrodd llawer ohonynt 
                wrth Ruth y forwyn. Ond nid y cyfan, ychwaith. Mae’n amlwg 
                ei bod ar adegau yn ymdeimlo â’r angen i gadw rhai 
                penillion yn gyfan gwbl iddi hi ei hun. Mae sôn amdani’n 
                cuddio rhai penillion ar ddarnau o bapur o dan glustog cadair 
                wellt yn y gegin, a Ruth yn cael golwg lechwraidd arnynt a’u 
                dysgu. A phan gafodd Ann ei hannog gan Ruth, am ei bod yn gwaelu 
                yn ei hiechyd, i roi ei hemynau ar glawr rhag iddynt fynd i golli, 
                ei hateb oedd, nad oedd yn eu gweld yn deilwng. ‘Nid wyf 
                am i neb eu cael nhw ar fy ôl,’ meddai; ‘rwy’n 
                eu cyfansoddi er cysur i mi fy hun.’
              Yn ffodus, ni chafodd Ann ei dymuniad. Bu cof 
                Ruth, a’i sylweddoliad hi ac eraill o werth yr emynau, yn 
                drech na hynny. Ar ôl marw Ann, adroddodd Ruth hwynt wrth 
                Thomas Charles o’r Bala. Ni fedrai Ruth ysgrifennu, ond 
                anogodd Thomas Charles ei gŵr, John Hughes, Pontrobert, i ysgrifennu’r 
                emynau i lawr er mwyn iddo eu cyhoeddi. Dyna a wnaed, a chyhoeddwyd 
                nifer dda o’r penillion mewn casgliad bychan o emynau a 
                ymddangosodd o fewn ychydig fisoedd i farwolaeth Ann.
              
                Cyhoeddi gwaith Ann
                Cofnododd John Hughes benillion Ann mewn ysgriflyfrau sydd bellach 
                yn y Llyfrgell Genedlaethol. Cyhoeddwyd tua dwy ran o dair o’r 
                penillion hynny, yn gymysg â gwaith emynwyr eraill, mewn 
                cyfrol yn dwyn y teitl Casgliad o Hymnau, a argraffwyd 
                yn y Bala tua dechrau 1806. Tua’r un adeg cyhoeddwyd nifer 
                o’r penillion hyn mewn atodiad yn ail argraffiad casgliad 
                emynau dylanwadol Robert Jones, Rhos-lan, Grawn-sypiau Canaan, 
                ac mae’n bur bosibl fod Robert Jones wedi cynorthwyo Thomas 
                Charles i baratoi penillion Ann ar gyfer y wasg. 
              Mae gwahaniaethau arwyddocaol rhwng penillion 
                Ann Griffiths yn Casgliad o Hymnau (1806) a’r ffurf 
                sydd arnynt yn ysgriflyfrau John Hughes, o ran eu geiriad ac o 
                ran y modd y’u cyfunwyd yn emynau. Erbyn hyn derbynnir yn 
                gyffredinol mai’r ffurf sydd arnynt yn ysgriflyfrau John 
                Hughes yn hytrach na’u ffurf yn Casgliad o Hymnau 
                (1806) sydd agosaf (fel arfer) at ffurf wreiddiol penillion Ann 
                Griffiths, ac mai golygu a diwygio Robert Jones a Thomas Charles 
                (a John Hughes efallai) sy’n gyfrifol am lawer o’r 
                gwahaniaethau rhwng fersiynau llawysgrif John Hughes a’r 
                fersiynau printiedig cynnar. 
              O blith y penillion o’i gwaith yn ysgriflyfrau 
                John Hughes nas cyhoeddwyd yn Casgliad o Hymnau (1806), 
                cyhoeddodd John Hughes bob un ond saith ohonynt pan aeth ati i 
                gyhoeddi cofiant i Ann yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg 
                (gan eu diwygio yn ôl ei fympwy yn hytrach na’u hatgynhyrchu 
                yn y ffurf a oedd arnynt yn ei ysgriflyfrau). O’r saith 
                pennill a oedd yn weddill heb eu cyhoeddi ganddo, bu’n rhaid 
                aros tan 1882 cyn cyhoeddi pump ohonynt, a than 1903 cyn cyhoeddi’r 
                ddau arall. 
              Er i benillion Ann gael eu hailgyhoeddi’n 
                gyson a’u dethol yn bur eang i gasgliadau emynau yn ystod 
                y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae’n bwysig cofio mai fersiynau 
                golygedig Thomas Charles, Robert Jones, Rhos-lan a John Hughes, 
                Pontrobert, neu amrywiadau arnynt, a fu mewn cylchrediad ar hyd 
                y ganrif honno. Bu’n rhaid aros tan y gyfrol Gwaith 
                Ann Griffiths (1905), dan olygyddiaeth O. M. Edwards, cyn 
                cyhoeddi fersiynau llawysgrif John Hughes am y tro cyntaf. Ac 
                mae’n werth cofio, felly, fod bri cynyddol Ann Griffiths 
                yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn seiliedig ar destunau 
                o’i hemynau a oedd yn bur wahanol ar adegau i’r ffurf 
                wreiddiol arnynt!
              Dyna sy’n wir am lythyrau Ann hefyd. Cyhoeddodd 
                John Hughes dri ohonynt am y tro cyntaf mewn cylchgronau yn ystod 
                y blynyddoedd 1819-23, a’r gweddill am y tro cyntaf ynghlwm 
                wrth ei gofiant i Ann Griffiths yn 1846. Yma eto, bu John Hughes 
                yn ddigon parod i olygu a diwygio yn hytrach nag atgynhyrchu’r 
                fersiynau llawysgrif yn ffyddlon, a bu’n rhaid aros tan 
                ddechrau’r ugeinfed ganrif cyn cyhoeddi’r llythyrau 
                am y tro cyntaf yn y ffurf sydd arnynt yn llawysgrifau John Hughes.
              
                Trefn a dyddiad
                Mae 73 o benillion y gallwn fod yn weddol hyderus mai Ann a’u 
                lluniodd. Maent yn ymffurfio’n 30 o emynau, rhai’n 
                emynau un pennill, a’r hwyaf ohonynt, ei cherdd odidog ‘Rhyfedd, 
                rhyfedd gan angylion’, yn gyfanwaith nodedig o saith o benillion. 
                Mae ei hemynau un-pennill yn aml yn llai eu camp na’r emynau 
                aml-bennill, a dichon bod nifer ohonynt yn ddrylliau o gerddi 
                nas datblygwyd ymhellach. Yn achos yr emynau aml-bennill, yr argraff 
                a geir yw mai dechrau eu rhawd yn benillion unigol fu hanes llawer 
                ohonynt, yn gynnyrch cyfnodau byr o fyfyrio dwys, ac iddynt dyfu’n 
                gyfanweithiau gam wrth gam dros gyfnod o fisoedd, onid flynyddoedd. 
                Ond ai Ann ei hun a fu’n gyfrifol am gyplysu’r penillion 
                hyn yn emynau aml-bennill, neu a fu gan John a Ruth, neu rywrai 
                eraill, eu rhan hefyd? Anodd dweud erbyn hyn.
              Er y gellir yn betrus gynnig dyddiad cyfansoddi 
                ar gyfer ambell bennill, y gwir yw ei bod yn amhosibl dweud gydag 
                unrhyw sicrwydd erbyn hyn ba pryd ac ym mha drefn y’u cyfansoddwyd. 
                Ond gellir awgrymu’n ochelgar fod y rhan fwyaf, os nad y 
                cyfan, o benillion Ann yn gynnyrch y blynyddoedd 1802–1804.
              
                Mesur
                Defnyddiodd Ann gryn amrywiaeth o fesurau wrth lunio ei phenillion, 
                cynifer ag wyth i gyd. Wedi dweud hynny, y mae’r mwyafrif 
                llethol o’r penillion – tua dwy ran o dair ohonynt 
                – ar y mesur 87.87. Dwbwl. Bu’r mesur hwn yn un hynod 
                boblogaidd yn hanes emynyddiaeth Gymraeg. Mae’n fesur mawreddog, 
                a’i wyth linell hir yn caniatáu i’r emynydd 
                weithio ar gynfas eang o ran cynnwys a chrefft. 
              Mae bron y cyfan o benillion 87.87. Dwbl Ann Griffiths 
                yn ffurf ar y mesur sydd yn afreolaidd ei sillafau, ffurf a fedyddiwyd 
                yn 87. 87. Dwbl ‘Clonciog’. Fe’i nodweddir gan 
                sillafau diacen ychwanegol a geir yn anghyson ar ddechrau llinellau; 
                a dylid nodi fod anghysonderau tebyg o ran sillafau yn nodweddu 
                defnydd Ann o fesurau eraill hefyd. Nifer acenion y llinellau 
                sy’n rhoi eu rheoleidd-dra i’r llinellau hyn yn hytrach 
                na nifer eu sillafau. 
              Bu llawer o gwyno dros y blynyddoedd am y ‘tor 
                mesur’ hwn yn emynau Ann Griffiths, a thipyn o newid ar 
                ei phenillion gan olygyddion casgliadau emynau er mwyn rheoleiddio 
                hyd y llinellau i ddiben canu cynulleidfaol. Ond y gwir yw nad 
                ‘tor mesur’ sydd yma o gwbl. Roedd y math hwn o afreoleidd-dra 
                sillafau yn nodwedd gyffredin ar ganu gwerin oes Ann. Nid oes 
                anhawster canu ei hemynau ‘clonciog’ ar alaw werin 
                megis ‘Y Ferch o Blwyf Penderyn’, er enghraifft. Ac 
                y mae hyn oll yn awgrymu’n gryf mai alawon poblogaidd ei 
                bro oedd ym meddwl Ann wrth iddi lunio nifer o’i hemynau.
              Nodweddion yr emynau
                Nid dyma’r lle i fanylu ar nodweddion emynau Ann Griffiths, 
                ond mentrwn grynhoi rhai o’u prif nodweddion dan dri phen:
              1. Gwrthrychol
                Fel y pwysleisiodd Saunders Lewis yn ei ddarlith nodedig ‘Ann 
                Griffiths: Arolwg Llenyddol’, bardd myfyrdod, bardd y deall, 
                yw Ann, bardd sy’n syllu allan mewn rhyfeddod ar banorama 
                gwirioneddau’r Ffydd. Mae ei gallu i feddwl yn eglur a rhoi 
                mynegiant clir fel y grisial i’r meddwl hwnnw, yn un o nodweddion 
                hynotaf ei gwaith. Yn wir, un peth trawiadol am ei llythyrau yw 
                cynifer o weithiau y mae’r gair ‘meddwl’ yn 
                digwydd ynddynt. Gair pwysig arall yn ei gwaith yw ‘gwrthrych’, 
                ac felly hefyd eirau megis ‘gweld’ ac ‘edrych’. 
                ‘Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd wrthrych teilwng o 
                fy mryd’ meddai ar ddechrau un o’i hemynau enwocaf.
              2. Goddrychol
                Ond yn ogystal â’r elfen wrthrychol, nodweddir ei 
                hemynau gan ddwyster profiad personol. Diben eu cyfansoddi ar 
                un wedd oedd rhoi mynegiant i’w phrofiadau ysbrydol er mwyn 
                eu meddiannu’n well. Mae’r person cyntaf unigol yn 
                amlwg iawn yn ei hemynau drwyddynt draw. Gwrthrych teilwng o fy 
                mryd yw’r un a welir rhwng y myrtwydd. Yn ddiddorol iawn, 
                mae dau fersiwn o’r pennill enwog hwnnw ar gael mewn mannau 
                gwahanol yn ysgriflyfrau John Hughes. Ann ei hun (yn hytrach nag 
                unrhyw ymyrraeth olygyddol gan John Hughes, dyweder) a fu’n 
                gyfrifol am y ddau fersiwn fel ei gilydd, yn ôl pob tebyg; 
                ac y mae’r ddau fersiwn, rhyngddynt, fel petaent yn tanlinellu’r 
                cyfuniad o’r gwrthrychol a’r goddrychol a geir yng 
                ngwaith Ann drwyddo draw, oherwydd geiriau agoriadol y naill fersiwn 
                yw ‘Wele’n sefyll’, sy’n pwysleisio’r 
                syllu gwrthrychol, tra mai ‘Gwela’i yn sefyll’ 
                yw geiriau agoriadol mwy goddrychol y llall.
              3. Beiblaidd
                Mae’r Beibl yn gwbl ganolog i fywyd a gwaith Ann Griffiths. 
                Perygl gwirioneddol i rywun a gâi ‘ymweliadau’ 
                ysbrydol mor ysgytwol â hi fyddai cael ei lywodraethu gan 
                y teimladau a’r profiadau hynny. Ond nid felly Ann. Iddi 
                hi, y Beibl yw Gair Duw, datguddiad dwyfol sy’n awdurdod 
                terfynol ar bob agwedd ar ei bywyd, ei meddwl a’i phrofiad. 
                Ofnai ‘ddychmygion o bob rhyw’, gan ddiolch ‘am 
                y Gair yn ei awdurdod anorchfygol’. Ac y mae i’r Beibl 
                le allweddol yn y broses o ffurfio a dehongli profiad Ann o’r 
                Duwdod.
              Oherwydd golwg aruchel Ann ar y Beibl, nid yw’n 
                syndod mai dyna oedd prif ddeunydd ei darllen a’i myfyrdod. 
                Mae ymadroddion megis ‘y gair hwnnw ar fy meddwl’ 
                yn dôn gron drwy ei llythyrau wrth i adnod ar ôl adnod 
                gydio ynddi a siarad â hi a’i chyflwr. Trwythodd ei 
                hun yn y Beibl, ac ym mhob rhan ohono, yr Hen Destament yn ogystal 
                â’r Newydd. Gwelai’r cyfan yn un gwead cyfoethog 
                gan yr un Awdur dwyfol. Gwelai’r cyfan hefyd yn troi o gwmpas 
                person Iesu Grist. Ef yw’r allwedd i bob rhan o’r 
                Beibl; ato Ef y mae’r cyfan yn cyfeirio, weithiau yn eglur, 
                weithiau mewn dameg a chysgod.
              O gofio hyn oll, nid yw’n annisgwyl canfod 
                bod gwaith Ann yn frith o gyfeiriadau ac adleisiau beiblaidd, 
                a hynny o bob rhan o’r Beibl. O ran ei defnydd o gyfeiriadaeth 
                feiblaidd y mae’n iawn ystyried Ann Griffiths yn fardd clasurol, 
                oherwydd yn ei gwaith y mae’r meddwl yn gwibio yn ôl 
                ac ymlaen rhwng y gerdd a ffynhonnell y gyfeiriadaeth, a’r 
                naill gyd-destun yn cyfoethogi’r llall. Yn wir, heb ddal 
                gwaith Ann yng ngoleuni’r Beibl, collwn haenau o ystyr ac 
                arwyddocâd, a’n gadael ein hunain yn agored i gamddeall 
                a chamddehongli ei gwaith yn ddybryd. Er enghraifft, collir haenau 
                o ystyr oni sylweddolir fod y llinell ‘Wele’n sefyll 
                rhwng y myrtwydd’ yn cyfeirio at weledigaeth ym mhennod 
                gyntaf proffwydoliaeth Sechareia yn yr Hen Destament, a bod Ann 
                yn dehongli’r weledigaeth honno o farchog cryf arfog a oedd 
                yn sefyll rhwng y myrtwydd yn y pant, yn ddarlun ac yn gysgod 
                o Grist yn amddiffyn pobl Dduw (y ‘myrtwydd’) yn eu 
                cyflwr isel a chyfyng.
              Mae pob emynydd Cymraeg yn adleisio’r Beibl 
                yn ei waith, ond y mae defnydd Ann o’r Beibl yn ddwysach 
                na’r lleill. Mae’r adleisiau’n amlach ac wedi’u 
                plethu’n dynnach. Da y dywedodd Derec Llwyd Morgan mai creu 
                collage o luniau beiblaidd y mae Ann yn ei gwaith. Yn 
                uniongyrchol neu yn anuniongyrchol, y mae holl ieithwedd ei hemynau 
                yn seiliedig ar iaith y Beibl, a’r Beibl yw ffynhonnell 
                yr holl ddelweddau a chyffelybiaethau a ddefnyddia i ddiriaethu 
                ei syniadau a’i phrofiadau. Mae hyn wedi arwain at y cyhuddiad 
                nad yw Ann yn gwneud llawer mwy yn ei gwaith na rhaffu adnodau 
                o’r Beibl at ei gilydd. Ond gwna sylw felly gam mawr â 
                hi, oherwydd y mae’n amlwg fod Ann yn dethol ei delweddaeth 
                yn gelfydd ac yn greadigol, a’i bod wedi meddiannu ieithwedd 
                y Beibl mor llwyr nes llwyddo i’w throi yn iaith ei phrofiadau 
                dyfnaf.
              
                Themâu’r emynau
                Nid dyma’r lle ychwaith i drafod yn fanwl themâu emynau 
                Ann Griffiths, ond mentrwn eu crynhoi hwythau o dan dri phen:
              1. Deddf
                Mae i ddeddf neu gyfraith Dduw le canolog ym mywyd a gwaith Ann 
                Griffiths. Iddi hi y ddeddf, mewn rhyw ystyr, sy’n darlunio 
                cymeriad Duw ac yn clymu holl broses yr iachawdwriaeth ynghyd. 
                Y peth cyntaf a wna’r ddeddf yw dangos i Ann ei bod yn methu 
                cwrdd â’i gofynion, ei bod wedi troseddu yn erbyn 
                cyfraith Duw, a’i bod yn annerbyniol ganddo o’r herwydd 
                – mewn gair, ei bod yn bechadur. Ond y mae i’r ddeddf 
                swyddogaeth gadarnhaol hefyd, oherwydd er bod y ddeddf ar un olwg 
                yn ei chondemnio, eto, am ei bod yn fynegiant o gymeriad Duw a’i 
                ewyllys, y mae’n gosod patrwm ar ei chyfer, yn diffinio 
                sancteiddrwydd fel petai.
              2. Delw
                Yn rhedeg trwy waith Ann y mae hiraeth dwfn am fod yn sanctaidd, 
                hiraeth am gydymffurfio â phatrwm Duw ar ei chyfer. Sonia 
                yn ei hemynau am ei hiraeth am ‘ddiysgog gydymffurfio â 
                phur a sanctaidd ddeddfau’r nef’ ac am fod ar ddelw 
                Crist yn llawn. Er ei bod yn ymdrechu at hynny yn y bywyd hwn, 
                mae Ann yn ymwybodol na fydd modd cyrraedd hynny’n llawn 
                yr ochr hon i’r bedd. Dyna sy’n rhannol esbonio’r 
                hiraeth mawr sydd yn ei gwaith am y nefoedd. Bydd marw yn elw 
                iddi, meddai yn ei llythyr at Elizabeth Evans, am y bydd drwy 
                hynny yn ‘cael gadael ar ôl bob tueddiad croes i ewyllys 
                Duw, gadael ar ôl bob gallu i ddianrhydeddu deddf Duw, bob 
                gwendid yn cael ei lyncu i fyny gan nerth, cael cydymffurfiad 
                cyflawn â’r gyfraith, yr hon sydd eisoes ar ein calon, 
                a mwynhau delw Duw am byth’.
              3. Duw-ddyn
                Ond nid hiraeth am sancteiddrwydd ac am y nefoedd sydd yn ei gwaith 
                mewn gwirionedd yn gymaint â hiraeth am Iesu Grist, am ‘wrthrych 
                mawr ei Berson Ef’. Yn y bôn, hiraeth am fod mewn 
                cymundeb digwmwl a diderfyn â Christ sy’n rhedeg trwy 
                ei gwaith: ‘Cusanu’r Mab i dragwyddoldeb heb im gefnu 
                arno mwy.’ Ef yw’r patrwm perffaith, y gwrthrych teilwng. 
                Ef yw’r Iawn sy’n agor ‘ffordd gyfreithlon i 
                droseddwyr i hedd a ffafor gyda Duw’. Ef – yr Un sy’n 
                Dduw ac yn ddyn ar yr un pryd, yr Un sy’n cwmpasu ac yn 
                cymodi daear a nef – yw achos pennaf y rhyfeddu sydd yn 
                nodwedd mor amlwg yn ei gwaith, a ffynhonnell bennaf y paradocsau 
                sy’n rhan mor greiddiol o wead ei meddwl a’i mynegiant.
              Y blynyddoedd olaf
                Bu’r blynyddoedd 1804 ac 1805 yn rhai o newid mawr yn hanes 
                Dolwar Fach. Yn Chwefror 1804, bu farw tad Ann yn sydyn. Bu hynny’n 
                ergyd drom, a gadawodd ei hôl ar iechyd Ann weddill ei dyddiau. 
                Mae’n rhaid hefyd fod ei farwolaeth wedi ychwanegu cryn 
                dipyn at ei gwaith hi a’i brawd, John, wrth iddynt ysgwyddo’r 
                cyfrifoldeb dros redeg y ffarm. Yn Hydref 1804, priododd Ann ag 
                arweinydd Methodist ifanc o’r plwyf nesaf, Thomas Griffiths, 
                a ddeuai o deulu pur gefnog ond nad oedd, yn fwy nag Ann a’i 
                brawd John, yn gryf o gorff.
              
                
                  |  | 
                
                  | Cofnod priodas 
                      Thomas ac Ann Griffiths yng nghofrestr plwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa
 | 
              
              Ym Mai 1805, gadawodd Ruth Evans Ddolwar Fach 
                pan briododd John Hughes. Erbyn hynny yr oedd Ann yn feichiog 
                ers tua saith mis. Gwannaidd iawn oedd Elizabeth, merch fach Ann 
                a Thomas Griffiths, pan aned hi ar 13 Gorffennaf 1805, ac fe’i 
                bedyddiwd yr un diwrnod, nid yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa, 
                ond gan Jenkin Lewis, gweinidog Annibynnol capel Pen-dref, Llanfyllin. 
                Bu farw’r ferch fach ymhen pythefnos, a’i chladdu 
                ym mynwent Eglwys Llanfihangel ar 31 Gorffennaf. 
              Yr oedd Ann ei hun mewn gwendid mawr yn dilyn 
                yr enedigaeth, a bu farw cyn pen pythefnos ar ôl ei merch, 
                yn 29 mlwydd oed, a’i chladdu ar 12 Awst 1805 ym mynwent 
                Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Y bore Sul canlynol, traddododd 
                John Hughes bregeth angladdol iddi yng nghapel y Methodistiaid 
                ym Mhontrobert. Cododd yn destun adnod o bennod gyntaf Llythyr 
                Paul at y Philipiaid – adnod sy’n cael lle canolog 
                yn yr unig lythyr sydd gennym yn llaw Ann, yr un at Elizabeth 
                Evans – ‘Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw’.