jump to main content

Cardiff University
 
Cynnwys
Astudio Ann Griffiths
Testunau digidol
Gwaith Ann Griffiths
Hawlfraint
Gwybodaeth
Cysylltu
 
English (Home)
 
 
Catalog y Llyfrgell
Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Caerdydd

gan E. Wyn James

Pe baech yn gofyn i Mrs Jones Llanrug neu’r dyn ar fws Cwm-sgwt enwi Cymraes enwoca’r byd, beth tybed fyddai’r ateb? Digon tebyg mai enw Shirley Bassey fyddai’n dod i’r brig, neu Catherine Zeta Jones, efallai; ac y mae hynny yn arwydd o’r newid diwylliannol enfawr a fu yng Nghymru yn ystod y can mlynedd diwethaf, oherwydd yn niwedd Oes Victoria yr oedd ‘Cymraes enwoca’r byd’ yn un o enwau anwes ein cyndeidiau ar yr emynyddes Ann Griffiths – neu Ann Thomas, a rhoi iddi ei henw morwynol. A diau y gellid cytuno’n rhwydd mai Ann fyddai piau’r teitl yr adeg honno, oni bai am un ferch arall. Un o hoff enwau anwes Oes Victoria ar y ferch arall honno oedd ‘y Gymraes fechan heb yr un Beibl’, sef Mary Jones, y ferch y mae hanes ei thaith i’r Bala i brynu Beibl ar gael mewn tua deugain o ieithoedd erbyn hyn. A dichon y gellid hawlio o hyd mai Mary Jones yw Cymraes enwoca’r byd, o leiaf mor bell ag y mae’r diwylliant Cristnogol poblogaidd rhyngwladol yn y cwestiwn.

Mary Jones ar ei ffordd i'r Bala yn 1800
Tair argraff arlunydd, yn dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, o Mary Jones ar ei thaith i’r Bala yn 1800 i gael Beibl gan Thomas Charles:
Mary Jones on her way to Bala (Rees) Mary Jones on her way to Bala (Evans) Mary Jones on her way to Bala (Jones and Morgan)
(a)
(b)
(c)
(a) O gyfrol Robert Oliver Rees, Mary Jones, Y Gymraes Fechan Heb yr Un Beibl ([1879]); ymddangosodd yn ddiweddarach yng nghyfrol M. E. Ropes, From the Beginning; or, The Story of Mary Jones and Her Bible ([1882])
(b) O gyfrol David Evans, The Sunday Schools of Wales ([1883]), yn dangos Cadair Idris yn y cefndir
(c) O gyfrol John Morgan Jones a William Morgan, Y Tadau Methodistaidd, cyf. 2 (1897)

Digon prin oedd y sôn am y naill a’r llall ohonynt hyd at yr 1860au yn achos Ann Griffiths, a’r 1880au yn achos Mary Jones; ond erbyn diwedd Oes Victoria yr oeddynt ill dwy wedi tyfu’n eiconau cenedlaethol, ac yn cymryd eu lle’n gysurus wrth ochr dwy Gymraes arall y bu cryn ganu eu clodydd yn sgil ‘Brad y Llyfrau Gleision’, sef y ‘Ferch Rinweddol’ a’r ‘Fam-Angyles’.1 Yn wir, bron na ellid galw Mary Jones ac Ann Griffiths yn ddwy brif ‘santes’ y Gymru Ryddfrydol, Anghydffurfiol a ddaeth i fod yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond nid trafod delweddau rhamantaidd Oes Victoria o’r ddwy yw’n bwriad yma, ond yn hytrach edrych ar Ann Griffiths a Mary Jones yn eu cyfnod a’u cynefin, ac yn enwedig yn eu perthynas â’u mentor mawr, Thomas Charles o’r Bala.

Ann a Mary: cymharu a gwrthgyferbynnu
Y mae’n ddiddorol cymharu a gwrthgyferbynnu bywydau Ann a Mary. Fe’u ganed ill dwy yn chwarter olaf y ddeunawfed ganrif – Ann yn nechrau 1776 a Mary yn niwedd 1784. Dim ond tua naw mlynedd oedd rhyngddynt, felly, o ran eu hoed. O’r ochr arall, y mae’r gwahaniaeth yn eu hoedran yn marw yn bur drawiadol. Ymestynnodd bywyd Mary ymhell i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu farw’n wraig weddw ddall yn Rhagfyr 1864, a hithau newydd gyrraedd ei 80 oed. Ond gwraig ifanc newydd briodi oedd Ann pan fu farw yn 29 oed yn Awst 1805, yn dilyn genedigaeth ei hunig blentyn.

Bywyd gwledig gogledd Cymru, a bywyd uniaith Gymraeg i bob pwrpas, oedd cefndir y ddwy – plwyf Llanfihangel-y-Pennant yn sir Feirionnydd, nid nepell o’r môr, yn achos Mary; plwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa yn sir Drefaldwyn, nid nepell o’r ffin â Lloegr, yn achos Ann. Siroedd Trefaldwyn a Meirionnydd oedd prif ganolfannau’r diwydiant gwlân yng Nghymru o ganol yr unfed ganrif ar bymtheg hyd ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a bu gan wlân ran amlwg ym mywydau Ann a Mary ill dwy. Merch i wehyddion oedd Mary, a gwehyddion fu hi a’i gŵr, Thomas Jones, ar hyd eu bywyd priodasol. Yn yr un modd, trin gwlân oedd un o brif orchwylion bywyd beunyddiol Ann. Tuag adeg marw Ann Griffiths yr oedd gwŷdd a phum troell yn Nolwar Fach, ac yr oedd ganddynt tua phedwar ugain o ddefaid ar y ffarm.2

Yn y fan honno gwelwn un gwahaniaeth pwysig rhwng Ann a Mary. Merch dlawd iawn oedd Mary, a fagwyd gan ei mam weddw mewn bwthyn bach di-nod. Bu’n dlawd yn ferch, a bu’n dlawd hyd ei bedd. Ond merch eithaf cysurus ei byd oedd Ann, merch ffarm, a’i thad yn ŵr o safle yn ei blwyf. A phan briododd Ann, priododd i deulu pur gefnog. Daeth ei gŵr, Thomas Griffiths, â chwe llwy arian i’w ganlyn pan ddaeth i fyw at Ann i Ddolwar Fach. Llestri piwtar a phren oedd yn Nolwar cyn hynny, heb ddim llestri arian. Fel y nododd Helen Ramage, o Oes Elisabeth ymlaen yr oedd yn rhaid wrth o leiaf chwech o lwyau arian ar yr aelwyd i roddi statws i deulu; a phan ddaeth yn amser i Thomas ymadael â Dolwar Fach, y mae’n arwyddocaol i’r chwe llwy arian fynd oddi yno gydag ef.3

 

Thomas a Sally Charles

Yr hyn a glymai Ann a Mary dynnaf wrth ei gilydd, er pob gwahaniaeth yn eu safle cymdeithasol, oedd y ffaith eu bod ill dwy yn Fethodistiaid Calfinaidd. Yn neheudir Cymru yn nhridegau’r ddeunawfed ganrif y dechreuodd yr adfywiad ysbrydol grymus a adwaenwn fel y Diwygiad Methodistaidd neu’r Diwygiad Efengylaidd, a phur araf fu twf Methodistiaeth yn y Gogledd ar y dechrau. Yn wir, yr oedd yn wythdegau’r ddeunawfed ganrif cyn i’r mudiad Methodistaidd ddechrau magu nerth o ddifrif yng ngogledd Cymru, a hynny’n enwedig ar ôl i glerigwr efengylaidd o’r De, Thomas Charles (1755–1814), ymsefydlu yn y Bala a bwrw ei goelbren gyda’r Methodistiaid yno.

Thomas Charles portrait
Thomas Charles (1755-1814)
Llun a ymddangosodd gyntaf yn yr Evangelical Magazine, Medi 1798

‘Rhodd yr Arglwydd i’r Gogledd ydyw Charles,’ meddai’r arweinydd Methodistaidd arloesol a’r pregethwr seraffaidd, Daniel Rowland amdano yn 1785 – ac nid i’r Gogledd yn unig o bell ffordd, fel y gwyddom bellach o edrych yn ôl ar ei fywyd a’i gyfraniad aruthrol i gynnydd Cristnogaeth yng Nghymru a’r tu hwnt. Ond fe ddylid hefyd roi’r clod dyledus i’w wraig am y gwaith mawr a gyflawnodd Thomas Charles, oherwydd os bu enghraifft erioed o wraig yn chwarae rhan allweddol yn llwyddiant ei gwr, Sally Charles yw honno.

Un o’r Bala oedd Sarah Charles (1753–1814) – Sally Jones cyn iddi briodi. Gweithiai yn siop y teulu yno. Yr oedd yn ferch hardd a hirben, yn dduwiol iawn ac yn gysurus ei byd. Yr oedd yr emynydd mawr, Williams Pantycelyn, yn neilltuol hoff ohoni, a dywedir y byddai wedi hoffi ei chael yn ferch-yng-nghyfraith iddo. Ond nid felly y bu. Syrthiodd Thomas Charles dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â hi ar yr olwg gyntaf. Petrus iawn fu’r garwriaeth o’i hochr hi ar y dechrau, a hithau’n amau braidd mai ar ôl ei harian yr oedd Charles. Ond fel y dywed R. Tudur Jones, ‘Os bu carwr eiddgar a thaer erioed, Thomas Charles oedd hwnnw’, ac ar ôl hir gyrchu, fe’i cafodd.4

Yr oedd Sally yn benderfynol o aros yn y Bala, a bu raid i Charles ddod yno ati hi pan briodasant yn 1783. Sally, felly, a oedd yn uniongyrchol gyfrifol fod Thomas Charles wedi ymsefydlu yn y Bala; a hi a’i siop a fu’n gyfrifol hefyd am ei gynnal yno, a rhoi iddo’r modd i’w alluogi i ymroi i’w waith arloesol ymhlith Methodistiaid y Gogledd. (Mae’n werth nodi wrth fynd heibio mai dibynnu ar siop ei wraig am ei gynhaliaeth faterol fu hanes prif arweinydd Methodistiaid y Gogledd yn y genhedlaeth nesaf hefyd, sef John Elias; fel, o ran hynny, y bu siop ‘merch Gwern Hywel’ yn Amlwch yn fodd i gynnal ei gŵr, William Roberts, a siop Jane, chwaer Ann Griffiths, yn Llanfyllin yn fodd i gynnal ei gwr hithau, Abraham Jones, yn eu gwaith fel pregethwyr Methodist. Y mae ar Fethodistiaeth ddyled fawr i siopwragedd!)

  Sally Charles's shop in Bala  
Siop Sally Charles yn Stryd Fawr y Bala
O gyfrol M. E. Ropes, From the Beginning; or, The Story of Mary Jones and Her Bible ([1882])
Ymddeolodd Sally Charles o’r siop yn 1810. Yr adeg honno, symudodd hi a Thomas Charles i fyw i’r tŷ drws nesaf, ar yr ochr dde.

Thomas Charles: addysgwr
Un o gyfraniadau pwysicaf Thomas Charles oedd ei waith yn sefydlu ysgolion. Wrth symud i’r Gogledd, yr hyn a drawai Charles oedd y tywyllwch ysbrydol a oedd yn drwch o’i amgylch. Er mwyn ceisio chwalu’r tywyllwch hwnnw, penderfynodd drefnu ysgolion dyddiol ar batrwm ysgolion cylchynol Griffith Jones, Llanddowror – yr oedd Charles ei hun, cofier, yn frodor o ardal Llanddowror, yn ne sir Gaerfyrddin. Dechreuodd ysgolion cylchynol Griffith Jones yn yr 1730au. Buont yn llwyddiant rhyfeddol, yn addysgol ac yn grefyddol, a thrwyddynt daeth y Cymry yn un o bobloedd mwyaf llythrennog Ewrop erbyn canol y ddeunawfed ganrif.5

Ni bu ysgolion Griffith Jones erioed mor gryf yn y Gogledd ag y buont yn y De, ac erbyn i Thomas Charles ymsefydlu yn y Bala yr oeddynt wedi darfod o’r tir i bob pwrpas. Ond yn awr dyma Thomas Charles yn dechrau cyflogi athrawon a threfnu iddynt fynd oddi amgylch o ardal i ardal, gan aros ym mhob ardal am ychydig fisoedd ar y tro i ddysgu’r bobl i ddarllen a’u hyfforddi yn egwyddorion sylfaenol y ffydd Gristnogol. Bu’r athrawon hyn yn genhadon crwydrol hynod effeithiol, a’u dylanwad yn bellgyrhaeddol. Yn ogystal â chynnal ysgolion cylchynol, ac yn wahanol i Griffith Jones yn hynny o beth, amcanai Thomas Charles at sefydlu ysgolion Sul yn sgil yr ysgolion cylchynol, fel bod parhad i’r gwaith addysgol gan bobl leol wedi i’r athro symud ymlaen i’w gylch nesaf o weithgarwch. Bu’r ysgolion cylchynol a’r ysgolion Sul yn hynod lwyddiannus yn eu hamcan, a thrwyddynt crewyd dosbarth sylweddol o bobl a fedrai ddarllen.6

Llanycil Church
Eglwys Llanycil
O gyfrol John Morgan Jones a William Morgan, Y Tadau Methodistaidd, cyf. 2 (1897)
Roedd y Bala yn rhan o blwyf Llanycil tan 1855. Mae eglwys blwyf Llanycil ar lan Llyn Tegid tua milltir i’r gorllewin o’r Bala. Priodwyd Thomas a Sally Charles yn eglwys Llanycil yn Awst 1783 ac fe’u claddwyd ill dau yn ei mynwent yn Hydref 1814.

Bala a diwygiad
Law yn llaw ag ymgyrchoedd addysgol Thomas Charles, fe gafwyd yn ystod ei gyfnod yn y Gogledd gyfres o adfywiadau ysbrydol grymus iawn. Dywed un o’r awdurdodau amlycaf ar hanes diwygiadau crefyddol Cymru – Henry Hughes, Bryncir – mai’r blynyddoedd 1785–1815, yn ei dyb ef, oedd y cyfnod mwyaf llwyddiannus a fu erioed ar grefydd yng Nghymru.7

Nid oes gwell enghraifft o’r newid trawiadol a fu ym myd crefydd yn y cyfnod hwn na’r Bala ei hun. Pan ymwelodd yr arweinydd Methodist arloesol, Howel Harris, â’r dref honno ar daith bregethu yn 1741, bu ond y dim iddo gael ei ladd gan haid o erlidwyr ffyrnig. Er ei fod wedi hen arfer â gwrthwynebiad, dychrynwyd Harris gymaint gan ffyrnigrwydd yr erlid fel na allai wynebu mynd yn agos i’r dref am flynyddoedd ar ôl hynny. Ond ymhen hanner canrif union, yn 1791, yr oedd tref y Bala ar ganol adfywiad ysbrydol grymus iawn. Dywed Thomas Charles am un nos Sul yn Hydref 1791:

Towards the close of the evening service, the Spirit of God seemed to work in a very powerful manner on the minds of great numbers present, who never appeared before to seek the Lord’s face [. . .] About nine or ten o’clock at night, there was nothing to be heard from one end of the town to the other, but the cries and groans of people in distress of soul.8

Cofleidiodd llawer yn y Gogledd y Gristnogaeth efengylaidd danbaid hon yn y blynyddoedd o tua 1785 ymlaen, ac ymunodd nifer dda o’r rheini â’r Methodistiaid Calfinaidd. Erbyn dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr oedd y Gogledd wedi dod yn gadarnle i Fethodistiaeth a’r Bala yn fath o Jerwsalem i Fethodistiaid gogledd Cymru. Yr oedd y Bala yn fan ganolog yn ddaearyddol ar gyfer Methodistiaid y Gogledd; ond presenoldeb Thomas Charles yno, yn anad dim, a’i gwnaeth yn ganolbwynt ysbrydol i’r mudiad.

Thomas Charles's communion cup
Cwpan Cymun Thomas Charles
Llun gan Rhiain M. Davies
(fe’i cyhoeddwyd gyntaf yn argraffiad Gwasg Gregynog o emynau a llythyrau Ann Griffiths yn 1998)
Mae’r cwpan arian a ddefnyddiai Thomas Charles yn ei wasanaethau cymun misol yn y Bala yn Archifau’r Methodistiaid Calfinaidd yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Elfen allweddol yn hyn o beth oedd y gwasanaethau cymun a gynhaliai Thomas Charles yn y Bala ar Sul olaf y mis. Er i’r Methodistiaid Calfinaidd ymffurfio’n enwad ar wahân i bob pwrpas wrth i’r ddeunawfed ganrif fynd yn ei blaen, ni fu iddynt ymwahanu’n swyddogol oddi wrth yr Eglwys Anglicanaidd hyd nes iddynt ddechrau ordeinio eu gweinidogion eu hunain yn 1811. Hyd hynny, dim ond y sawl a oedd wedi’i ordeinio’n offeiriad gan yr Eglwys Anglicanaidd – a oedd yn y cyfnod hwnnw yn eglwys wladol yng Nghymru – a gâi weinyddu Swper yr Arglwydd ymhlith y Methodistiaid; ac am ryw ugain mlynedd, rhwng 1784 ac 1803, Thomas Charles oedd yr unig offeiriad ordeiniedig a weinidogaethai’n gyson ymhlith Methodistiaid y Gogledd.9 Nid rhyfedd felly fod cyrchu rheolaidd i’r Bala gan Fethodistiaid o bell ac agos i’r gwasanaethau cymun ar y Suliau pen mis, heb sôn am y cyrchu mawr a fu yno i’r ŵyl bregethu a oedd yn gysylltiedig â phrif Sasiwn y Methodistiaid yn y Gogledd, a gynhelid yn y Bala bob haf.10

Syched am Feiblau
Rhwng ysgolion Thomas Charles a’r adfywiadau ysbrydol grymus a gydweai â hwy, crewyd dosbarth helaeth o bobl a oedd nid yn unig yn medru darllen y Beibl, ond a oedd hefyd, yn bwysicach, yn awchu am ei ddarllen. Creodd hyn yn ei dro broblem fawr i Thomas Charles, sef sut oedd darparu digon o Feiblau i gwrdd â’r galw aruthrol amdanynt; a’i ymgais ef ac eraill i sicrhau cyflenwadau cyson a rhad o Feiblau Cymraeg ar gyfer y bobl gyffredin a arweiniodd yn y pen draw at sefydlu'r Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor yn 1804.

Y mae geiriau Charles mewn llythyr ym Mawrth 1804 at Joseph Tarn, un arall o sylfaenwyr y Feibl Gymdeithas – llythyr sydd bellach yn archifau Cymdeithas y Beibl yn Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt – yn rhoi rhyw syniad inni o’r syched am Feiblau a oedd yn y wlad yr adeg honno:

The Sunday Schools have occasioned more calls for Bibles within these five years in our poor country, than perhaps ever was known before among our poor people [. . .] The possession of a Bible produces a feeling among them which the possession of no one thing in the world besides could produce [. . .] I have seen some of them overcome with joy & burst into tears of thankfulness on their obtaining possession of a Bible as their own property & for their free use. Young females in service have walked thirty miles to me with only the bare hopes of obtaining a Bible each; & returned with more joy & thanksgiving than if they had obtained great spoils. We who have half a doz. Bibles by us, & are in circumstances to obtain as many more, know but little of the value those put upon one, who before were hardly permitted to look into a Bible once a week.

Title page, Testament Newydd
Testament Newydd (1806)
Wynebddalen y Testament Newydd Cymraeg cyntaf i’w gyhoeddi gan y Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor. Fe’i hargraffwyd yng Nghaergrawnt yn 1806. Cyhoeddwyd deng mil o gopïau. Daeth y copïau o’r wasg ym Medi 1806, ac nid ym Mai 1806 fel y dywed yr wynebddalen.

Nid yw’n syn, wrth gwrs, fod cymaint o alw am Feiblau ymhlith dychweledigion diwygiadau efengylaidd y ddeunawfed ganrif. Pobl a’r Beibl yn ganolog i’w bywydau oedd y bobl hyn. Iddynt hwy, y Beibl oedd gair ysbrydoledig ac anffaeledig Duw, a’r awdurdod terfynol ym mhob peth a berthynai i’w ffydd a’u buchedd. Yn 1792, ac yntau’n ddeunaw mlwydd oed, mentrodd John Elias i Sasiwn y Bala gyda’r fintai luosog o bobl ifainc a gyrchai yno ar draed o Lŷn. Dyma ran o’i ddisgrifiad o’r daith yno, sy’n dangos yn eglur le canolog y Beibl ym mywydau’r Methodistiaid ifainc hyn:

Cychwynasom dan ymddiddan am y Beibl a phregethau. Bryd arall, canu salmau a hymnau. Weithiau y gorffwysem, a byddai i un neu ddau fynd i weddi, yna cychwynem drachefn dan ganu. Nid oedd nemawr air yn ein mysg trwy’r daith, ond am y Beibl, pregethau, a phethau crefyddol.11

Calon gwaith Thomas Charles
Yn achos Thomas Charles ei hun, yr oedd y Beibl yn gwbl allweddol i’w fywyd a’i weithgarwch. Cynhyrchu Beiblau, ennill darllenwyr i’r Beibl, esbonio a chymhwyso neges y Beibl – dyna oedd calon ei waith. Ys dywedodd R. Tudur Jones yn ei ddarlith bwysig, Thomas Charles o’r Bala: Gwas y Gair a Chyfaill Cenedl:

Pan drown at waith cyhoeddus Thomas Charles, daw’n amlwg ar unwaith fod ei amrywiol gynlluniau’n canoli ar y Beibl. Perthynai i genhedlaeth o arweinyddion crefyddol a oedd yn rhannu’r un delfrydau ag ef a rhyngddynt buont yn gyfrifol am weu’r Beibl mewn ffordd newydd i batrwm bywyd a diwylliant gwerin Cymru [. . .] Yr oedd â’i fryd ar adeiladu yng Nghymru wareiddiad wedi ei wreiddio yn yr Ysgrythur.12

Thomas Charles Monument, Bala
Cofgolofn Thomas Charles
O gyfrol David Evans, The Sunday Schools of Wales ([1883])
Codwyd cofgolofn farmor i Thomas Charles, o waith William Davies (‘Mynorydd’; 1826–1901), o flaen Capel Tegid, capel y Methodistiaid Calfinaidd yn y Bala, yn 1875. Mae’r cerflun ohono, sy’n saith troedfedd o uchder, yn dangos Thomas Charles mewn gŵn pregethu du, a chanddo un llaw ar ei galon a’r llaw arall yn cynnig copi o’r Beibl.

Yn nesaf at y Beibl ei hun, ynghyd â holwyddoreg enwog Thomas Charles, Hyfforddwr yn Egwyddorion y Grefydd Gristionogol (a aeth i dros bedwar ugain o argraffiadau yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg), nid hwyrach mai’r llyfr mwyaf dylanwadol yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd llyfr arall o waith Thomas Charles, sef ei Eiriadur Ysgrythyrol. Fe’i hysgrifennwyd er mwyn cynorthwyo pobl i ddeall y Beibl a’i ddysgeidiaeth yn well; ac y mae’n werth dyfynnu brawddegau agoriadol ei ragymadrodd i’r Geiriadur er mwyn dangos y fath urddas a roddai Thomas Charles ar y Beibl:

Trysorfa pob gwybodaeth fuddiol ac angenrheidiol yw yr Ysgrythyrau Sanctaidd......Gan eu bod oll wedi eu rhoddi gan ysbrydoliaeth Dduw, y mae yn rhaid eu bod yn cyfranogi o’i berffeithrwydd ef, ac yn addas iddo. Oblegid perffeithrwydd ei wybodaeth, nis gall gamsynied; ac oblegid uniondeb ei natur, ni fyn ein twyllo mewn dim: am hyny, y mae y wybodaeth a roddir i ni, yn yr Ysgrythyrau, yn oruchel, yn sicr, ac yn gyflawn. Nid oes dim perthynol i’n cyflyrau a’n dedwyddwch mewn byd arall; na dim sydd yn perthyn i’n hamgylchiadau a’n dyledswyddau yma yn y byd hwn, nad ydyw Duw, yn ei air sanctaidd, wedi rhoddi cyflawn gyfarwyddyd i ni, pa fodd i ymddwyn yn mhob peth, yn mhob sefyllfa, a thuag at bawb. Y mae trefn fawr yr iechydwriaeth, trwy Gyfryngwr, yn dysgleirio yn eglur ac yn gyflawn ynddo, o flaen byd o bechaduriaid.13

Title page of Thomas Charles's Scriptural Dictionary
Geiriadur Ysgrythyrol (1805)
Wynebddalen argraffiad cyntaf cyfrol gyntaf geiriadur ysgrythurol enwog Thomas Charles. Dechreuodd y geiriadur ymddangos yn rhannau o tua Mehefin 1802 ymlaen. Ymddangosodd rhan olaf y gyfrol gyntaf yn Nhachwedd 1805, dri mis ar ôl marw Ann Griffiths. Yr oedd yn un o’r llyfrau mwyaf dylanwadol yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

A’u harweinydd yn synio am yr Ysgrythur yn y fath fodd, nid yw’n syndod gweld y lle canolog a roddid i’r Beibl ym mywyd y genhedlaeth o Fethodistiaid a gododd yng nghysgod Thomas Charles – a Mary Jones ac Ann Griffiths yn eu plith. Oherwydd nid yn unig y bu’r ddwy yn dyst i’r chwyldro mawr efengylaidd a gydiodd yng ngogledd Cymru yn ystod eu hieuenctid, ond cawsant eu cipio gan ysbryd y chwyldro hwnnw a’u taflu i’w ganol.

Ann a Mary: pererinion ar ffordd y Bala
Daeth Ann a Mary at y Methodistiaid mewn ffyrdd gwahanol. Yr oedd rhieni Mary Jones ymhlith arloeswyr y Methodistiaid yn ei hardal enedigol, a chafodd ei magu, felly, yn rhan o’r gymuned grefyddol honno. Daeth i ffydd bersonol yn wyth mlwydd oed, a chael ei derbyn i’r seiat Fethodistaidd leol yr adeg honno. Ymhen tua dwy flynedd wedyn, yn 1795, bu Mary yn dyst i gyfnod o erlid mawr ar Fethodistiaid ardal Llanfihangel-y-Pennant gan dirfeddiannwr lleol. Ochri gyda’r erlidwyr y byddai Ann Griffiths, yn ddiau, petai’n byw yn ardal Mary Jones adeg yr erlid. Fel y rhan fwyaf o bobl ei chyfnod, Eglwyswraig ffyddlon oedd Ann. Taranai yn huawdl a chyda dirmyg yn erbyn crefydd Ymneilltuol o bob math, a dywedai yn wawdus am y rhai a gyrchai Sasiwn y Methodistiaid yn y Bala: ‘Dacw y pererinion yn myned i Mecca.’ Ond, yn 1796, a hithau tua ugain mlwydd oed, daeth dan argyhoeddiad dwys iawn o bechod, gan ymuno ymhen hir a hwyr â seiat leol y Methodistiaid dirmygedig yn ardal Llanfihangel-yng-Ngwynfa. Bellach cyrchai hithau’r Bala yn gyson, i’r cymun misol ac i’r Sasiwn flynyddol.

Yr oedd yn drefniant cyffredin yn y cyfnod hwnnw i forynion o Fethodistiaid osod amod yn eu cytundeb cyflogi y caent fynd i Sasiwn y Bala bob haf, ac yn gyfnewid am y fraint honno cymerent ostyngiad o bum swllt y flwyddyn yn eu cyflog. Y mae’n amlwg fod trefniant o’r fath gan Ruth Evans, a ddaeth yn forwyn i Ddolwar Fach yn 1801, oherwydd y mae sôn fod Ann un flwyddyn wedi cynnig pum swllt i Ruth er mwyn cael mynd i’r Bala yn ei lle. Ond yr oedd yn well gan Ruth fynd i’r Sasiwn na chael yr arian!

Ty Uchaf, Llanwddyn
Tŷ Uchaf, Llanwddyn
Llun gan Rhiain M. Davies
(fe’i cyhoeddwyd gyntaf yn argraffiad Gwasg Gregynog o emynau a llythyrau Ann Griffiths yn 1998)
Byddai Ann Griffiths yn llety yn aml ar nos Sadwrn yn Nhŷ Uchaf, Llanwddyn, cartref hen ŵr duwiol o’r enw Humphrey Ellis, er mwyn torri ei thaith i’r Bala ar gyfer y Cymundeb ar fore Sul.

Rhaid bod angen i’r naill neu’r llall o’r ddwy fod yn Nolwar adeg y Sasiwn arbennig honno; ond yn gyffredinol fe lwyddai Ann i gyrraedd y Bala yn bur aml. Yn y cofiant a luniodd Morris Davies iddi yn 1865, ceir sawl hanesyn am y fintai o Fethodistiaid a groesai’r mynydd-dir o’i hardal i’r Bala, ac Ann yn amlwg iawn yn eu plith. Wrth ddychwelyd o’r Bala ar nosweithiau Sul, yn ôl un o’i chymdeithion, ‘Ein gwaith ar hyd y ffordd fyddai gwrandaw ar Ann Thomas yn adrodd y pregethau. Ni welais i erioed ei bath am gofio.’14

Nid oedd y profiad o gyrchu’r Bala ar Sul cymundeb ac ar gyfer y Sasiwn yn brofiad dieithr i Mary Jones ychwaith. Yn ei henaint, hoffai sôn fel y byddai yn ei hieuenctid yn teithio ar hyd nos Sadwrn i fod yn y Bala mewn pryd i’r cymun fore Sul, am gyrddau gweddi’r fintai ar y ffordd yn ôl ac ymlaen, am y pregethu grymus ar y ‘Green’ yn y Bala, ac am y gorfoledd.15

Perthyn i’r un gymuned
Y mae’n bur debygol mewn gwirionedd fod Ann a Mary, am ychydig flynyddoedd tua dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn cydfynychu’r un cyfarfodydd yn y Bala ac yn adnabod ei gilydd – o bell o leiaf, ar draws y dyrfa. Mewn geiriau eraill, perthynai’r ddwy i’r un gymuned grefyddol, a honno’n canoli ar y Bala ac ar Thomas Charles. Ac yr oedd yr holl elfennau a nodweddai Fethodistiaeth gogledd Cymru ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif ar waith ym mywydau’r ddwy. Yr un yn ei hanfod oedd profiad ysbrydol y ddwy, yr un oedd eu credoau, yr un ieithwedd grefyddol a oedd ganddynt, yr un oedd eu harferion ysbrydol, a’r un oedd natur eu cyrchfannau crefyddol. Clywent yr un pregethwyr; darllenent yr un llyfrau; canent yr un emynau. Yr oedd y ddwy yn adnabod Thomas Charles yn bersonol; ac er na fu Ann, fel Mary, yn ddisgybl yn ei ysgolion cylchynol, yr oedd y ddwy yn ddwfn eu dyled i’w ymdrechion addysgol. Er enghraifft, athrawon yn ysgolion cylchynol Thomas Charles oedd prif gynghorwyr ysbrydol y ddwy, sef William Hugh o Lanfihangel-y-Pennant yn achos Mary, a John Hughes o Lanfihangel-yng-Ngwynfa (a Phontrobert wedi hynny) yn achos Ann.

Yr wyf yn bur ymwybodol, wrth osod Ann a Mary yn gyfochrog fel hyn, fy mod mewn perygl o roi’r argraff eu bod ar yr un gwastad â’i gilydd. Nid yw hynny’n wir, wrth gwrs. Er bod y ddwy yn ferched galluog, a chof eithriadol o dda gan y naill a’r llall, Ann yw’r athrylith. Hi yw’r arweinydd naturiol. Er bod pennill, y dywedir ei fod yn waith Mary, wedi goroesi ar lafar, gan Ann yr oedd y cefndir diwylliannol cyfoethocaf a’r ddawn fel bardd.16 Ac er bod profiad ysbrydol byw gan Mary Jones, ynghyd â dealltwriaeth dda o wirioneddau’r Ffydd, gan Ann Griffiths yr oedd y dwyster profiad a’r gafael fwyaf treiddgar ar y gwirioneddau hynny.

Wedi dweud hyn, buont ill dwy yn ddilynwyr ffyddlon a phur nodedig i Thomas Charles a’r mudiad Methodistaidd y perthynent iddo. Nid yw hynny i’w weld yn amlycach yn unman nag yn eu pwyslais trwm ar y Beibl. Ac yn yr hyn sy’n dilyn yr wyf am fwrw brasolwg dros hanes y naill a’r llall yn eu tro, gan fanylu’n arbennig ar le llywodraethol y Beibl yn eu bywydau.

 

Ann Griffiths

Ganed Ann Griffiths yn 1776. Hi oedd yr ieuengaf ond un o bum plentyn John a Jane Thomas, Dolwar Fach, plwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa, sir Drefaldwyn. Yr oedd ei dwy chwaer wedi gadael cartref erbyn marw eu mam yn 1794, gan adael Ann, yn 17 mlwydd oed, yn feistres ar y tŷ a meistres Dolwar fu hi o hynny hyd ei marw cynnar yn 1805.

Ann Griffiths effigy
Ann Griffiths (1776-1805)
O gyfrol David Thomas, Ann Griffiths a’i Theulu (1963)
Nid oes gennym unrhyw luniau o Ann Griffiths. Mae’r cerflun hwn yng Nghapel Coffadwriaethol Ann Griffiths yn Nolanog, pentref gerllaw ei chartref, wedi ei seilio ar ddisgrifiadau cyfoes ohoni. Agorwyd y capel yng Ngorffennaf 1904.

Magwraeth grefyddol a gafodd Ann Griffiths. Yr oedd ei thad yn Eglwyswr mwy selog na’r cyffredin, yn mynychu’r gwasanaethau yn gyson yn eglwys y plwyf ac yn cynnal dyletswydd deuluaidd ar ei aelwyd bob bore a hwyr. Yr oedd hen gi llwyd yn Nolwar a fyddai’n dilyn ei feistr i Eglwys Llanfihangel bob bore Sul, gan orwedd yn dawel o dan ei fainc tan ddiwedd y gwasanaeth; a phrawf o gysondeb tad Ann yn y gwasanaethau oedd i hynny fynd yn gymaint arferiad gan y ci fel y byddai’n mynd yno bob Sul yn rheolaidd, hyd yn oed pe na bai aelod o’r teulu yn bresennol! Ond er bod teulu Dolwar, yn ôl pob tystiolaeth, yn Eglwyswyr didwyll a chydwybodol, daeth bron pob un ohonynt yn ei dro i’r argyhoeddiad nad oedd gwir ffydd brofiadol yn eu meddiant, oherwydd cafodd pedwar o’r pum plentyn dröedigaeth wedi iddynt dyfu’n oedolion, a dilynodd y tad yntau’r un llwybr cyn diwedd ei fywyd. Ymunasant oll â’r Methodistiaid Calfinaidd, a daeth Dolwar Fach yn orsaf bregethu i’r Methodistiaid am rai blynyddoedd.

Er mai ‘arwynebol’, mae’n siwr, fyddai eu disgrifiad hwy eu hunain o’u crefydd cyn iddynt droi at y Methodistiaid, ac er iddynt gael hwyl gyfwerth, a dweud y lleiaf, yn dilyn y ddawns a’r noson lawen a’r chwaraeon prynhawn Sul ag a gaent yng ngwasanaethau’r Eglwys Anglicanaidd ar fore Sul, golygai cysondeb y teulu yn eglwys y plwyf ac yn y ddyletswydd deuluaidd fod y Beibl a’r Llyfr Gweddi Gyffredin yn rhan o’u cynhysgaeth feunyddiol. Cawsant eu magu hefyd yn sŵn y carolau plygain, sydd yn fath o bregethau ar gân ac yn llawn adleisiau o’r Ysgrythur. A gellir gweld cyffyrddiadau o ddylanwad y Llyfr Gweddi Gyffredin a’r carolau plygain ar waith Ann, yn waddol o’i magwraeth Anglicanaidd.

Ymdrwytho yn y Beibl
Fel y pwysleisiwyd eisoes, yr oedd Ann, wrth ymuno â’r Methodistiaid, yn ymuno â phobl yr oedd ymdrwytho yn y Beibl yn fater o’r pwys mwyaf iddynt. Darllenent y Beibl yn gyson; fe’i hastudient yn ddyfal, bob rhan ohono; myfyrient ynddo; dysgent ddarnau helaeth ohono ar eu cof. Ymdreiddiai’r Beibl i fêr eu cyfansoddiad, gan lywio eu meddwl a’u gweithredoedd a lliwio eu hiaith, yn llafar ac yn ysgrifenedig.

Dolwar Fach's Registration Licence for public worship
Trwydded Cofrestru Dolwar Fach ar gyfer Addoliad Cyhoeddus (1803)
Atgynhyrchwyd yn Cymru, Ionawr 1906
Yr oedd tad Ann Griffiths, John Thomas, a’i dau frawd, John ac Edward, ymhlith y rhai a lofnododd gais i Lys yr Esgob yn Llanelwy ym Mai 1803 i gofrestru eu cartref, Dolwar Fach, yn lle ar gyfer addoliad cyhoeddus.

Y mae’r disgrifiad a ganlyn, gan wraig a oedd yn adnabod teulu Dolwar Fach yn dda, yn dangos yn glir le canolog y Beibl ym mywyd Ann wedi ei thröedigaeth:

Byddai golwg ddymunol iawn ar y teulu yn Nolwar yn nyddu, a’r hen wr [sef tad Ann] yn gardio [h.y. yn cribo’r gwlân yn rholiau parod i’w nyddu], ac yn canu carolau a hymnau. Droion ereill, byddai distawrwydd difrifol megys yn teyrnasu yn eu plith. Byddai Ann yn nyddu, â’i Beibl yn agored o’i blaen mewn man cyfleus, fel y gallai gipio adnod i fyny wrth fyned yn mlaen â’i gorchwyl, heb golli amser. Mi a’i gwelais wrth y droell mewn myfyrdod dwfn, heb sylwi ar nemawr ddim o’i hamgylch, â’r dagrau yn llifo dros ei gruddiau lawer gwaith.17

Paham y lle canolog hwn i’r Ysgrythur ym mywyd Ann? Yr ateb syml, fel yr awgrymwyd yn barod, yw am ei bod yn argyhoeddedig mai Gair Duw oedd y Beibl a’r unig ganllaw diogel a digonol ar gyfer ei bywyd.

Profiad beiblaidd
Un o’r pethau mwyaf nodedig am Ann Griffiths yw’r profiadau ysbrydol dwfn a ddaeth i’w rhan, profiadau a barai iddi ymdreiglo ar y llawr ar adegau ac ymgolli mewn myfrdod dwfn ar adegau eraill. Dywed hi ei hun mewn llythyr at ei chyfeilles, Elizabeth Evans, ei bod yn cael ei llyncu gymaint weithiau i wirioneddau ysbrydol fel ei bod yn ‘misio yn deg â sefyll yn ffordd fy nyletswydd gyda phethau amser’, a bod yr Arglwydd ar brydiau yn ‘datguddio gymaint o’i ogoniant [. . .] a all fy nghyneddfau gweiniaid ei ddal’. Profiadau ysbrydol dwfn o’r fath a arweiniodd Thomas Charles i ddweud pan fu yn Nolwar Fach ryw dro, ei fod o’r farn y byddai Ann ‘yn debyg iawn o gyfarfod âg un o dri pheth – naill ai cyfarfod â phrofedigaethau blinion; neu fod ei hoes yn mron ar ben; neu ynte, y byddai iddi wrthgilio’.18

Y mae Ann ei hun yn disgrifio’r profiadau ysbrydol dwfn hyn fel ‘ymweliadau’. Perygl gwirioneddol i rywun a gâi ‘ymweliadau’ ysbrydol ysgytwol o’r fath fyddai cael ei lywodraethu gan y teimladau a’r profiadau hynny. Ond nid felly Ann. Yn ei bywyd a’i gwaith fe geir cyfuniad hynod gytbwys o’r goddrychol a’r gwrthrychol, o eglurder meddwl a dwyster profiad. Y mae’n ofni ‘dychmygion’ (chwedl hithau) uwchlaw popeth arall bron, ac yn croesawu awdurdod y Beibl – awdurdod gwrthrychol a therfynol y tu allan iddi hi ei hun – er mwyn rheoli’r dychmygion hynny. ‘Y mae rhwymau arnaf i fod yn ddiolchgar am y Gair yn ei awdurdod anorchfygol,’ meddai mewn llythyr at ei mentor, John Hughes, Pontrobert, yn 1802.

Y mae’n bwysig pwysleisio nad rhywbeth negyddol yn unig oedd y Beibl ym mywyd a phrofiad ysbrydol Ann. Y mae’n wir fod y Beibl yn ei rhwystro rhag credu rhai pethau, yn ei gwahardd rhag gweithredu mewn rhai ffyrdd, ac yn cadw ffrwyn ar ei phrofiadau ysbrydol i rai cyfeiriadau. Ond yr oedd i’r Beibl swyddogaeth gadarnhaol hefyd yn y pethau hyn oll. Ym myd ei phrofiadau ysbrydol, er enghraifft, bu’r Beibl yn gyfrwng i gynhyrchu a dyfnhau ei phrofiadau, yn ogystal â’u cyfeirio a’u rheoli. O droi at ei llythyrau, gwelir ym mhob yn ail frawddeg bron, gyfeiriad at ryw adnod neu’i gilydd a fu’n pwyso ar ei meddwl, yn ei goleuo, ei chysuro neu ei cheryddu; ac un o’i hofnau pennaf oedd methu ‘cael fy nghyflwr yn y Gair’. Y Beibl, felly, oedd dehonglydd a meithrinydd ei phrofiad ysbrydol; ac nid gormod honni mai’r datguddiad beiblaidd, ac nid ei chwiwiau goddrychol hi ei hun, a ffurfiai natur ei phrofiad o’r Duwdod.

Old Chapel, Pontrobert
Yr Hen Gapel, Pontrobert
Llun gan Rhiain M. Davies
(fe’i cyhoeddwyd gyntaf yn argraffiad Gwasg Gregynog o emynau a llythyrau Ann Griffiths yn 1998)
Roedd Ann Griffiths yn aelod o seiat y Methodistiaid Calfinaidd a fyddai’n cyfarfod yn bennaf ym Mhontrobert. Addolai’n gyson yn y capel a godwyd yn gartref i’r seiat ym Mhontrobert yn 1800.

Iaith feiblaidd
Mewn termau beiblaidd y mynegai Ann ei chred a’i phrofiad yn ei hemynau a’i llythyrau. Er bod tinc iaith sir Drefalwyn i’w glywed yma ac thraw yn ei gwaith, nid dyna’r iaith a ddefnyddiai Ann wrth gyfansoddi, ond yn hytrach yr hyn y gallwn ei alw’n ‘iaith y seiat’ neu ‘iaith y pulpud’ – yr un math o iaith ag a ddefnyddiai Williams Pantycelyn yn ei waith yntau, a honno wedi’i seilio i raddau helaeth ar iaith y Beibl. Y Beibl hefyd yn y pen draw yw ffynhonnell delweddau a chyffelybiaethau Ann, er bod llawer o’r rheini mewn cylchrediad helaeth ymhlith ei chyd-seiadwyr Methodistaidd ym Mhontrobert ac ar draws y wlad, yn rhan o’r hyn a alwodd T. J. Morgan yn ‘arian bath yr arddull emynyddol’.19 Iaith a chonfensiynau llenyddol ei chymuned grefyddol a ddefnyddiai Ann wrth gyfansoddi, felly, a’r rheini’n Gymru-lydan ac yn Feibl-ganolog.

Y mae holl emynwyr diwygiadau efengylaidd y ddeunawfed ganrif yn anadlu awyr y Beibl. Y mae eu gwaith yn gyforiog o eiriau a darluniau sy’n tarddu ohono; ac y mae Ann, a siarad yn gyffredinol, yn defnyddio’r un delweddau beiblaidd â’r lleill ac yn tynnu drymaf ar yr un adrannau o’r Beibl â hwy – sef (yn bennaf) llyfrau Eseia, Caniad Solomon a’r Salmau yn yr Hen Destament, a’r Epistol at yr Hebreaid, llyfr y Datguddiad a’r Efengylau yn y Testament Newydd. Eto i gyd, y mae defnydd Ann Griffiths o’r Beibl yn ddwysach na’r lleill. Y mae Williams Pantycelyn, er enghraifft, yn dal yn fardd natur y byd hwn i ryw raddau yn ei emynau; ond nid felly Ann. Yn ei gwaith hi y mae pob planhigyn yn blanhigyn nefol, a phob mynydd yn y Dwyrain Canol. Yn gyffredinol, hefyd, y mae emynau Ann Griffiths yn blethiad tynnach o adleisiau ysgrythurol na gwaith yr emynwyr eraill. Y mae’r cyfeiriadau a’r adleisiau ysgrythurol yn ei gwaith yn fwy trwchus a chymhleth at ei gilydd nag yn achos y lleill. Da y dywedodd Derec Llwyd Morgan am ei defnydd delweddol hi o iaith y Beibl mai gwneud collage o luniau y mae hi mewn emyn, ‘dwyn gwahanol brofiadau ac enwau-ar-brofiadau ynghyd yn undod rhyfedd, newydd’.20

Title page, Casgliad o Hymnau Preface, Casgliad o Hymnau
Casgliad o Hymnau (1809)
Wynebddalen argraffiad 1809 o’r casgliad o emynau y cyhoeddwyd gwaith Ann Griffiths ynddo am y tro cyntaf, ynghyd â’r rhagair byr a luniodd Thomas Charles ar gyfer y casgliad. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yn y Bala yn 1806. Mae’r argraffiad a gyhoeddwyd yng Nghaerfyddin yn 1809 yn nodedig am mai dyma’r argraffiad cynharaf o’r casgliad i gynnwys enw Ann ar yr wynebddalen. Y mae’n un o’r enghreifftiau cynharaf yn y Gymraeg o enw merch yn ymddangos ar wynebddalen cyfrol brintiedig.

Y mae cyfeiriadaeth ysgrythurol helaeth Ann yn tanlinellu ehangder ei gwybodaeth o’r Beibl a’i dyled fawr iddo fel ffynhonnell syniadol a delweddol; ond y mae’r gyfeiriadaeth ysgrythurol honno wedi arwain at y cyhuddiad nad yw’n gwneud fawr mwy yn ei gwaith na rhaffu adnodau o’r Beibl ynghyd. Cam mawr â hi yw hyn, oherwydd y mae’n glir fod Ann yn dethol ei chyfeiriadau yn gelfydd ac yn fedrus, ac ar ei gorau yn creu ohonynt benillion sy’n ‘un cyfanwaith crwn, gorffenedig a mawreddog’, chwedl J. R. Jones.21 Ac y mae’r gyfeiriadaeth ysgrythurol hon yn cyfoethogi ei gwaith yn fawr iawn, yn llenyddol ac yn grefyddol. Gweithreda mewn modd cyffelyb i’r gyfeiriadaeth at y Clasuron a geir mewn barddoniaeth o fathau eraill.22

Yn anffodus, y mae’r anwybodaeth affwysol o’r Beibl sydd yn nodweddu bywyd diwylliannol Cymru bellach, yn peri ein bod yn colli llawer o’r cyfoeth sydd yng ngwaith Ann, ac yn peri hefyd fod camddeall a chamddehongli dybryd arno. Er enghraifft, bu’n ffasiynol trafod ‘yr elfen erotig’ yng ngwaith Ann, a llawer o ddyfynnu ar y llinell ‘Cusanu’r Mab i dragwyddoldeb’ yn y cyd-destun hwnnw, heb sylweddoli mai Salm 2:12 oedd mewn golwg ganddi – ‘Cusenwch y Mab, rhag iddo ddigio’ – ac mai cusan o wrogaeth i frenin sydd dan sylw yn yr adnod honno.

Un peth pellach y dylid ei ychwanegu ynghylch defnydd Ann o’r Beibl yw ei bod yn trin y Beibl, nid fel casgliad o lyfrau annibynnol, ond fel cyfanwaith, a’r un Awdur dwyfol y tu ôl i’r cwbl a’r un neges waelodol yn rhedeg trwyddo. Un o ganlyniadau hynny yw ei bod, yn ei gwaith, yn tynnu ar bron pob un o lyfrau’r Beibl, rhai’r Hen Destament yn ogystal â’r Newydd, ac yn plethu’r cyfan blith draphlith yn ei gilydd. Peth arall y dylid ei nodi yw ei bod yn gwbl Grist-ganolog wrth ddehongli’r Beibl. Ef yw’r allwedd i’r cyfan; ato Ef y mae’r cyfan yn cyfeirio, weithiau’n eglur, weithiau mewn dameg a chysgod. Yn hynny o beth, gall Ann ganu gyda Williams Pantycelyn:

Fy Iesu yw mêr y Beibil, ’d oes bennod nad yw’n sôn
O bell neu ynteu o agos am groeshoeliedig Ô’n.23

 

Mary Jones

Wrth droi at Mary Jones y peth cyntaf y mae’n rhaid ei bwysleiso yw fod y Beibl yn cael lle blaenllaw yn ei bywyd drwyddo draw. Fel y nodwyd eisoes, ganed Mary yn Rhagfyr 1784, yn ferch i Jacob a Mary Jones, gwehyddion tlawd a drigai ym mwthyn Tyn-y-ddôl ym mhlwyf Llanfihangel-y-Pennant wrth droed Cadair Idris. Hi oedd eu hunig blentyn, hyd y gwyddom. Bu farw ei thad ym Mawrth 1789, a hithau ond ychydig dros bedair blwydd oed, a bywyd digon tlawd ac anodd a’i hwynebai hi a’i mam yn y blynyddoedd wedi hynny – blynyddoedd a welodd dlodi ar gynnydd yn gyffredinol yng nghefn gwlad Cymru yn sgil y rhyfela di-baid rhwng Prydain a Ffrainc, ynghyd â ffactorau economaidd eraill.

Mary Jones Monument
Cofgolofn Mary Jones
Llun: Cymdeithas y Beibl
(fe’i cynhwyswyd yn llyfryn Elisabeth Williams, Beibl i Bawb, yn 1988)
Codwyd y gofgolofn yn 1907 yn adfeilion Tyn-y-ddôl, y bwthyn yn Llanfihangel-y-Pennant yr oedd Mary a’i mam yn byw ynddo yn 1800, adeg taith Mary i’r Bala i gael Beibl oddi wrth Thomas Charles.

Magwraeth Fethodistaidd a gafodd Mary, yn wahanol iawn i’r fagwraeth o ofergoel ac ysgafnder a nodweddai’r rhan fwyaf o’i chyfoedion. Ni olygai hynny, wrth gwrs, mai magwraeth ddiflas ydoedd. Fel y pwysleisiodd Derec Llwyd Morgan ar fwy nag un achlysur, ‘Fe drefnodd Methodistiaeth fathau newydd o lawenydd i’w deiliaid’.24 Ac y mae’n werth dyfynnu yma ran o lythyr caru gan Thomas Charles at Sally Jones ar 1 Mawrth 1780, sy’n pwyleisio’r mwynhad sydd i’r Cristion ar y ddaear hon:

There can be no happiness but in ye enjoyment of ye inexhaustible and overflowing source of all goodness and perfection. As we lost our happiness by separating ourselves from God, so ye only way of regaining it is, by returning to him again; for he has promised to meet us in Christ and there (and no where else) to be forever reconciled to us. But notwithstanding, Creatures, not ‘as they are subject to vanity’, but as Creatures of God can, and do contribute much to our happiness by his (observe) blessing. God has diffused himself thro’ all his creatures, and when we enjoy him in his creatures, then they answer to us the end for which they were created. So that the love of God and of his creatures not only are consistent, but inseparably connected together.25

Soniwyd eisoes fod Mary wedi dod i ffydd bersonol yn wyth mlwydd oed, a chael ei derbyn i’r seiat Fethodistaidd leol yr adeg honno, sef rywbryd yn 1793. Peth anarferol yn y cyfnod hwnnw oedd derbyn plant mor ifanc yn aelodau o’r seiat, ond gan fod Mary yn dod gyda’i mam weddw i gyfarfodydd crefyddol eraill yn yr hwyr er mwyn cario’r lantern iddi, caniatawyd iddi ddod gyda’i mam i’r seiat hefyd. Yn gynnar yn ei bywyd, felly, daeth yn gyfarwydd iawn â chynnwys a neges y Beibl – yn llawer mwy cyfarwydd na’r rhan fwyaf o blant ei hardal yn y cyfnod hwnnw.

Pan oedd Mary tua deng mlwydd oed, daeth John Ellis, un o athrawon cylchynol Thomas Charles, i Abergynolwyn, ryw ddwy filltir o gartref Mary Jones, i gadw ysgol ddyddiol. Cyn hir cychwynnwyd ysgol Sul yno hefyd; ac un o’r disgyblion mwyaf prydlon a chyson yn y ddwy ysgol (hyd y caniatâi ei hamgylchiadau) oedd Mary Jones. Awchai am wybodaeth ysgrythurol, ac y mae’n amlwg o’r dystiolaeth sydd ar gael ei bod yn ddisgybl mwy galluog na’r cyffredin, a chanddi gof arbennig o dda – yn wir, hyd ei bedd gallai adrodd penodau cyfain o Hyfforddwr Thomas Charles heb fethu sill. Meddai Robert Oliver Rees, ei chofiannydd, amdani: ‘Hynodai ei hun yn arbenig yn yr Ysgol Sabbothol mewn trysori yn ei chof, ac adrodd allan yn gyhoeddus, benodau cyfain o Air Duw, ac mewn “deall da” ynddo’.26

Title page, Hyfforddwr yn Egwyddorion y Grefydd Gristionogol
Hyfforddwr yn Egwyddorion y Grefydd Gristionogol (1807)
Wynebddalen holwyddoreg enwog Thomas Charles, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1807. Aeth i dros bedwar ugain o argraffiadau yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyhoeddwyd cyfieithiad Saesneg ohoni yn 1867 dan y teitl, The Christian Instructor; or Catechism on the Principles of the Christian Religion.

I’r Bala i gael Beibl
Ar wahân i’r Beibl yn eglwys y plwyf, yr unig Feibl arall yn y gymdogaeth yr adeg honno, fe ymddengys, oedd yr un yn ffermdy Penybryniau Mawr, tua dwy filltir o gartref Mary.27 Cedwid y Beibl ar fwrdd yn y parlwr bach, a chafodd Mary ganiatâd gwraig y fferm i fynd yno i’w ddarllen, dim ond iddi dynnu ei chlocsiau cyn gwneud. Dywedir iddi gerdded yno bob wythnos ac ym mhob tywydd am tua chwe blynedd i ddarllen y Beibl a dysgu darnau ohono ar ei chof.

Ond ei hawydd mawr oedd cael ei Beibl ei hun. Y mae’r stori amdani’n mynd i’r Bala i geisio Beibl, yn droednoeth y rhan fwyaf o’r ffordd, yn enwog ar draws y byd mewn cylchoedd Cristnogol. Yn 1800 y bu hynny, a hithau’n 15 mlwydd oed. Golygai daith o ryw hanner can milltir i gyd, yn ôl ac ymlaen; ond yn ddiau ei hymdrech fwyaf arwrol oedd, nid ei thaith i’r Bala, ond ei haberth a’i dyfalbarhad yn cynilo ar gyfer prynu ei Beibl. Yr oedd cerdded y pellter hwnnw i’r Bala yn beth digon cyffredin ymhlith Methodistiaid y cyfnod, a cherdded yn droednoeth yn arfer digon cyffredin ymhlith y werin bobl yr adeg honno; ond i rywun mor dlawd â Mary, yr oedd cynilo digon o arian i brynu Beibl yn aberth mawr. Yr oedd Beiblau’n hynod ddrud yn y cyfnod hwnnw, a bu raid iddi gynilo pob ceiniog bosibl am flynyddoedd cyn llwyddo i grynhoi’r ychydig dros ddau swllt ar bymtheg yr oedd eu hangen arni – swm aruthrol i ferch ifanc dlawd fel Mary.

Map yn dangos llwybr tebygol taith Mary Jones i’r Bala yn 1800
Map gan Christine James
(yn seiliedig yn rhannol ar erthygl gan Donald Hoare yn Country Quest, Mai 1968;
fe’i cyhoeddwyd gyntaf yn llyfryn Elisabeth Williams, Beibl i Bawb, yn 1988)

Ychydig flynyddoedd yn ôl cyhoeddwyd pennill a drosglwyddwyd ar lafar dros sawl cenhedlaeth yn ardal Llanfihangel-y-Pennant. Dywedir mai pennill ydyw a gyfansoddwyd gan Mary Jones ei hun, ac er nad wyf wedi fy argyhoeddi o hynny o bell ffordd, diddorol yw nodi mai rhywun o fferm Penybryniau Mawr, y fferm y bu Mary Jones yn mynd iddi gyhyd i ddarllen y Beibl, yw’r person cyntaf a enwir yng nghadwyn traddodi’r pennill ar lafar. Dyma’r pennill:

Do, mi lwyddais i gael Beibl,
A phrysuraf adre’n awr;
Dysgaf bawb yn Llanfihangel
Yn ei wirioneddau mawr:
Ynddo gwelaf am y cariad
A ddangosodd Duw at ddyn;
O! mor hyfryd fydd cael darllen
Yn fy Meibl bach fy hun.28

Mary Jones a Chymdeithas y Beibl
Dywedir i ymweliad Mary Jones â Thomas Charles i brynu Beibl yn 1800 greu argraff mor ddofn arno fel na chafodd lonydd yn ei ysbryd nes dod o hyd i ffordd o sicrhau cyflenwad cyson o Feiblau rhad i werin Cymru. Ymhellach, yn ôl traddodiad, cafodd adroddiad Charles o hanes ymweliad Mary ag ef y fath effaith drydanol ar gyfarfod o bwyllgor Cymdeithas y Traethodau Crefyddol yn Llundain ar ddiwedd 1802 nes peri iddynt ddechrau gwyntyllu o ddifrif y posibilrwydd o sefydlu cymdeithas i gyhoeddi a dosbarthu Beiblau, nid yn unig i Gymru, ond hefyd i’r holl fyd.

Old Swan Stairs, London
Old Swan Stairs, ger Pont Llundain
O gyfrol William Canton, The Story of the Bible Society (1904)
Cyfrifdy’r masnachwr cefnog, Joseph Hardcastle, wrth yr ‘Old Swan Stairs’, lle y cynhaliwyd cyfarfod o bwyllgor Cymdeithas y Traethodau Crefyddol ar 7 Rhagfyr 1802. Roedd Thomas Charles yn bresennol yn y cyfarfod, ac yno y cynigiwyd sefydlu’r Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor.

Dyma a arweiniodd at sefydlu’r Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor yn 1804,29 er mawr lawenydd i Thomas Charles, Ann Griffiths a Mary Jones fel ei gilydd. Fel y dywedodd Thomas Charles mewn llythyr yng Ngorffennaf 1810:

I was continually applied to for Bibles, & much distressed I was (more than I can express) to be forever obliged to say, I could not relieve them. The institution of the British & Foreign B[ible] S[ociety] will be to me, & thousand others cause of unspeakable comfort & joy as long as I live. The beneficial effects already produced in our poor country, of the abundant supply of Bibles by the means of it, are incalculable.30

Y mae rhai wedi cwestiynu rhan Mary Jones yn hanes sefydlu Cymdeithas y Beibl. Yr amlycaf, mae’n siŵr, oedd y llyfrbryf tanllyd, Bob Owen, Croesor. ‘Gresyn o’r mwyaf oedd gwario ceiniogau prin y chwarelwyr, glowyr a’r ffermwyr i godi cofgolofn i un nad oedd a wnelo dim â chychwyn y Feibl Gymdeithas,’ meddai un tro, gan gyfeirio at y gofgolofn a godwyd yn adfeilion bwthyn Mary Jones yn Llanfihangel-y-Pennant.31

Y mae’n wir nad oes dystiolaeth gyfoes fod Thomas Charles wedi adrodd hanes Mary Jones yn y cyfarfod yn Llundain yn niwedd 1802; ac yn sicr y mae’n bwysig peidio â gorbwysleisio rhan Mary yn y cyfan. Byddai Thomas Charles wedi gwybod am ddigon o enghreifftiau eraill o’r syched mawr am Feiblau ymhlith gwerin gogledd Cymru. Ac eto, bu sôn cyson o gyfnod eithaf cynnar fod un ferch wedi creu argraff arbennig ar Thomas Charles; ac y mae’r holl dystiolaeth yn awgrymu mai Mary Jones oedd y ferch honno, a bod rhyw berthynas arbennig wedi datblygu rhyngddi hi a Thomas Charles yn sgil ei hymweliad ag ef yn y Bala i brynu Beibl.

Er enghraifft, pan ddechreuwyd cynnal cymanfaoedd ar gyfer ysgolion Sul Thomas Charles, a disgyblion nifer o ysgolion yn dod at ei gilydd i gael eu holi’n gyhoeddus, byddai Mary Jones mor ffyddlon â phosibl i’r cymanfaoedd a gynhelid yn ei hardal; a byddai’n disgleirio ynddynt, yn ôl y sôn. Mewn llawysgrif yn y Llyfrgell Genedlaethol, dywed Robert Griffith, Bryn-crug (gweinidog a adwaenai Mary yn dda yn niwedd ei hoes) y byddai ei hatebion ‘yn disgyn yn gawodydd fel pelenau tanllyd’ ac yn effeithio’n fawr ar y dorf. Dywed Robert Griffith ymhellach y byddai Thomas Charles yn sicr o ofyn bob tro y deuai i gymanfa ysgolion yng nghylch ei chartref, ‘Ymha le y mae y gwehudd [sef Mary Jones], heddyw dybed.’ Sonia Robert Griffith hefyd fel y byddai Mary yn cwrdd yn aml â Thomas Charles adeg Sasiynau’r Methodistiaid ac yn sgwrsio rywfaint ag ef ar achlysuron o’r fath.

Gwenyn a’r genhadaeth
Cafodd Mary Jones fywyd hir. Bywyd tlawd a thrist ydoedd ar lawer cyfrif. Priododd yn 1813. Ganwyd o leiaf chwech o blant iddi hi a’i gŵr, Thomas Jones, ond dim ond un ohonynt a oedd ar dir y byw erbyn i Mary farw, ac yr oedd hwnnw wedi ymfudo i’r Unol Daleithiau. Symudodd Mary a’i gŵr i fyw i Fryn-crug, ger Tywyn, tua 1820, ac yno y treuliodd weddill ei hoes, gan farw’n hen wraig weddw ddall yn 1864.

Bryn-crug
O gyfrol M. E. Ropes, From the Beginning; or, The Story of Mary Jones and Her Bible ([1882])
Treuliodd Mary Jones y rhan fwyaf o’i bywyd fel oedolyn ym Mryn-crug, pentref ychydig filltiroedd o’r môr, ger Tywyn, Meirionnydd. Fe’i claddwyd ym mynwent capel y Methodistiaid Calfinaidd ym Mryn-crug, lle y bu’n aelod ffyddlon.

Ond er pob caledi a siomedigaeth, ac er iddi ddioddef llawer o iselder ysbryd yn ei blynyddoedd olaf, daliodd ei ffydd Gristnogol hyd y diwedd, a bu’n nodedig o ffyddlon i achos y Methodistiaid Calfinaidd ym Mryn-crug. Er gwaethaf ei thlodi, cyfrannai’n gyson at waith Cymdeithas y Beibl, a rhoddodd hanner sofren yn y casgliad arbennig ar gyfer anfon miliwn o Destamentau i Tsieina adeg dathlu hanner canmlwyddiant sefydlu’r Feibl Gymdeithas yn 1854.

Fel rhan o’i bywoliaeth, cadwai Mary Jones lawer o wenyn. Dichon y bu Thomas Charles o gymorth iddi yn y mater hwn hefyd. Mae ei Eiriadur Ysgrythyrol yn fwynglawdd o wybodaeth am bob math o bynciau, ac yn cynnwys tipyn am wenyn a mêl. Yr oedd cadw gwenyn yn beth digon cyffredin yn y cyfnod. Ceid chwe llond cwch ohonynt yn Nolwar Fach, er enghraifft;32 a dichon eu bod hwy (yn ogystal â Salm 118:12) ym meddwl Ann Griffiths pan ganodd y geiriau:

Blin yw ’mywyd gan elynion
Am eu bod yn amal iawn;
Fy amgylchu maent fel gwenyn
O foreddydd hyd brynhawn . . .

Ond nid yw’r ddelwedd o elynion yn briodol yn achos Mary Jones. Dyma Robert Griffith, Bryn-crug, eto:

Nid oedd ganddi [sef Mary Jones] ond gardd fechan o dir, ac yr oedd hono yn bur llawn o ffrwythau, a gwenyn yn aneirif, a hithau fel tywysoges ar ddiwrnod têg yn yr haf, yn ei canol, a gallai eu codi ai dwylaw fel ŷd, neu flawd ceirch, heb i un o honynt ddefnyddio ei waiw-ffon iw gwrthwynebu.

Cadwai’r incwm o werthu’r mêl at ei chynhaliaeth hi ei hun, ond rhannai’r incwm o’r cwyr – a allai fynd yn swm go fawr – rhwng y Feibl Gymdeithas a chymdeithas genhadol ei henwad; a phriodolai’r ffaith nad oedd y gwenyn yn ei phigo, a’u bod mor gynhyrchiol, a bod ansawdd y cynnyrch mor dda, i’r ffaith y gwyddent fod Mary yn cysegru cyfran sylweddol o’r cynnyrch at waith eu Creawdwr.

Yr adran gyntaf o’r Drysorfa, cylchgrawn misol ei henwad, y byddai Mary Jones yn troi ati bob amser fyddai’r ‘Cronicl Cenhadol’. Gwelwn yr un diddordeb cenhadol yn Ann Griffiths hithau – cofier, er enghraifft, iddi lunio emyn yn sôn am lwyddiant byd-eang yr efengyl Gristnogol; cofier hefyd i John Davies, un o athrawon cylchynol Thomas Charles a fynychai’r un seiat ag Ann ym Mhontrobert, hwylio’n genhadwr i Dahiti yn 1800. Nid hwyrach mai dylanwad Thomas Charles oedd man cychwyn y diddordeb hwn eto yn achos y ddwy. Gosodai ef bwys mawr ar y genhadaeth dramor. Meddai yn ei lythyr at Joseph Tarn ym Mawrth 1804, y dyfynnwyd ohono eisoes:

Those noblest institutions, the Missionary [Society, h.y. Cymdeithas Genhadol Llundain a sefydlwyd yn 1795, cymdeithas y bu Thomas Charles yn un o’i chyfarwyddwyr], the Sunday School, together with the Bible Society added now to the other two, compleat the means for the dispersion of divine knowledge far & near.

Mary Jones's Bible
Beibl Mary Jones
Mae copi personol Mary Jones o’r Beibl, a dderbyniodd gan Thomas Charles yn y Bala yn 1800, erbyn hyn yn Archifau’r Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor yn Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt. Copi ydyw o argraffiad 1799 o’r Beibl Cymraeg, yr argraffwyd deng mil ohonynt yn Rhydychen ar gyfer yr SPCK. Yn ychwanegol at yr Hen Destament, y Testament Newydd a’r Apocryffa, mae’r gyfrol yn cynnwys y Llyfr Gweddi Gyffredin yn Gymraeg, a Salmau Cân Edmwnd Prys. Ysgrifennodd Mary Jones y geiriau a ganlyn (yn Saesneg) ar dudalen olaf yr Apocryffa:

Mary Jones was born 16th of December 1784.

I Bought this in the 16th year of my age. I am Daughter of Jacob Jones and Mary Jones His wife. the Lord may give me grace. Amen.

Mary Jones His The True Onour of this Bible. Bought In the Year 1800 Aged 16th.

Yn ei henaint byddai Mary Jones wrth ei bodd yn sôn am ei thaith i’r Bala i gael Beibl. Gwnaeth ddefnydd da o’r Beibl a gafodd gan Thomas Charles. Fe’i darllenai bob dydd tra gallai. Darllenodd trwyddo o glawr i glawr bedair o weithiau yn ystod ei bywyd. Rhoddodd ddarnau helaeth ohono ar ei chof, a bu hynny o fudd a chysur mawr iddi yn y cyfnod wedi iddi golli ei golwg. A phan fu farw, yr oedd y Beibl a gafodd yn y Bala dros drigain mlynedd ynghynt ar y ford yn ei hymyl.

* * * *

Un o benillion mwyaf cyfarwydd ein hemynyddiaeth yw ‘Dyma Feibil annwyl Iesu’. ‘Anhysbys’ ydyw o ran ei hawduraeth. Fel y mae Menna Elfyn wedi’n hatgoffa yn ei cherdd ‘Anhysbys – An sy’n hysbys’, ystyr ‘Anhysbys’ yn aml yw mai merch a luniodd y darn. Yn yr achos hwn, er nad oes sicrwydd pendant, y mae’n ddigon posibl mai dyn oedd yr awdur, sef Richard Davies, brodor o Dywyn, Meirionnydd, a aned yn 1793 ac a wasanaethodd fel blaenor gyda’r Methodistiaid Calfinaidd yn Nhywyn hyd ei farw yn 33 oed. Ymddangosodd y pennill mewn print am y tro cyntaf, hyd y gwyddys, mewn casgliad o emynau a gyhoeddwyd gan ddyn o’r enw Thomas Owen yn Llanfyllin yn sir Drefaldwyn yn 1820.

Y rheswm dros nodi hyn yw fod y pennill hwn fel petai’n clymu Ann Griffiths a Mary Jones wrth ei gilydd mewn mwy nag un ffordd. Methodist oedd Richard Davies, fel y ddwy ohonynt. Yr oedd Tywyn dafliad carreg oddi wrth gartref Mary Jones, a byddai hi yn sicr o fod wedi adnabod Richard Davies. Yr oedd Llanfyllin, wedyn, sef man argraffu’r pennill am y tro cyntaf, ond yn dafliad carreg oddi wrth gartref Ann Griffiths. Bu Ann Griffiths a Richard Davies ill dau farw’n ifanc; yn wir, yr oedd Ann yn ei bedd cyn i Richard Davies lunio ei bennill. Ond petai hi wedi cael byw, ni fyddai’n anodd ei dychmygu yn dyblu’r hen bennill syml ond cynhwysfawr hwn gyda blas yng nghwmni Mary Jones ar ‘Green’ y Bala adeg Sasiwn:

Dyma Feibil annwyl Iesu,
Dyma rodd deheulaw Duw;
Dengys hwn y ffordd i farw,
Dengys hwn y ffordd i fyw;
Dengys hwn y codwm erchyll
Gafwyd draw yn Eden drist;
Dengys hwn y ffordd i’r bywyd,
Trwy adnabod Iesu Grist.

 


Notes

1 Ar y newid yn y modd y portreadwyd Ann Griffiths dros y blynyddoedd, gw. fy narlith, ‘ “Eneiniad Ann a John”: Ann Griffiths, John Hughes a Seiat Pontrobert’, Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion 2003, cyf. 10 (2004), tt. 113–22. Ar y delweddu ar ferched a mamau yn Oes Victoria yn gyffredinol, gw. Hywel Teifi Edwards, ‘Comisynu’r Rhieingerdd Eisteddfodol, 1855–58’, Llên Cymru, 18:3–4 (1995), tt.273–300; R. Tudur Jones, ‘Daearu’r Angylion: Sylwadau ar Ferched mewn Llenyddiaeth, 1860–1900’, yn Ysgrifau Beirniadol XI, gol. J. E. Caerwyn Williams (Dinbych: Gwasg Gee, 1979), tt. 191–226; Sian Rhiannon Williams, ‘ The True “Cymraes”: Images of Women in Women’s Nineteenth-Century Welsh Periodicals’, yn Angel John (gol.), Our Mothers’ Land: Chapters in Welsh Women’s History, 1830–1939 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1991), pennod 3.

2 Helen Ramage, ‘Y Cefndir Cymdeithasol’, yn Y Ferch o Ddolwar Fach, gol. Dyfnallt Morgan (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1977), t. 11.

3 Helen Ramage, ‘Crandrwydd y Perlau Mân’, Y Casglwr, 24 (Nadolig 1984), t. 14. O droi i’r gyfrol Bro a Bywyd Saunders Lewis, gol. Mair Saunders (Caerdydd: Cyngor Celfyddydau Cymru, 1987), fe welir ar dudalen 15 lun o chwe llwy arian ei hen nain Sarah Jones, ‘merch Gwern Hywel’ – yr unig ‘waddol’ a gymerodd pan ddihangodd i briodi’r pregethwr Methodist, William Roberts, Amlwch, yn 1818.

4 R. Tudur Jones, Thomas Charles o’r Bala: Gwas y Gair a Chyfaill Cenedl (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1979), t. 18; y llyfr hwn yw’r cyflwyniad gorau i fywyd a gwaith Thomas Charles. Ceir portread o Sally Jones a hanes ei charwriaeth â Thomas Charles yng nghyfrol Gwen Emyr, Sally Jones: Rhodd Duw i Charles (Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Efengylaidd Cymru, 1996). Am drafodaeth fanwl ar berthynas Thomas a Sally, ynghyd â detholion sylweddol o’u gohebiaeth helaeth, gw. bywgraffiad tair-cyfrol D. E. Jenkins, The Life of the Rev. Thomas Charles (Dinbych: Llewelyn Jenkins, 1908; ail argraffiad, 1910).

5 Ar Griffith Jones a’i ysgolion, gw. Gwyn Davies, Griffith Jones, Llanddowror: Athro Cenedl (Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Efengylaidd Cymru, 1984).

6 Gw. Beryl Thomas, ‘Mudiadau Addysg Thomas Charles’, yn Hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru, cyf. 2, gol. Gomer M. Roberts (Caernarfon: Llyfrfa’r Methodistiaid Calfinaidd, 1978), pennod 8. Ar athrawon ysgolion cylchynol Thomas Charles, gw. Robert Owen, Ysgolfeistriaid Mr. Charles o’r Bala (Dolgellau: E. W. Evans, 1898). Ar hanes a datblygiad yr ysgol Sul yn gyffredinol, gw. G. Wynne Griffith, Yr Ysgol Sul (Caernarfon: Cymanfa Gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd, [1936]); R. Tudur Jones, Yr Ysgol Sul – Coleg y Werin (Gwasanaeth Archifau Gwynedd, 1985).

7 Henry Hughes, Bryncir, Hanes Diwygiadau Crefyddol Cymru (Caernarfon: Cwmni’r Wasg Genedlaethol Gymreig, [1906]), t. 170.

8 D. E. Jenkins, The Life of the Rev. Thomas Charles, cyf. 2, t. 89.

9 D. E. Jenkins, The Life of the Rev. Thomas Charles, cyf. 3, tt. 239–40.

10 Ar le’r Bala yn hanes Methodistiaeth a’i boblogrwydd fel cyrchfan, gw. Henry Hughes, Bryncir, Trefecca, Llangeitho, a’r Bala (Caernarfon: Y Wasg Genedlaethol Gymreig, 1896), a D. Francis Roberts a Rhiannon Francis Roberts, Hanes Capel Tegid, Y Bala (Y Bala: Robt Evans a’i Fab, 1957).

11 Hunangofiant John Elias, gol. Goronwy P. Owen (Pen-y-bont ar Ogwr: Mudiad Efengylaidd Cymru, 1974), t. 56.

12 R. Tudur Jones, Thomas Charles o’r Bala: Gwas y Gair a Chyfail Cenedl, tt. 21, 38.

13 Geiriadur Ysgrythyrol, cyf. 1 (Y Bala: R. Saunderson, 1805), rhagymadrodd. Aeth y Geiriadur i wyth argraffiad yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, heb sôn am argraffiadau Americanaidd ar gyfer cymunedau Cymraeg Gogledd America.

14 Morris Davies, Cofiant Ann Griffiths (Dinbych: Thomas Gee, 1865), t. 44.

15 Cyhoeddwyd disgrifiadau o Mary yn ei henaint, ynghyd â’i hatgofion am ei thaith i’r Bala, mewn erthyglau gan K. Monica Davies yn Y Drysorfa, Mai 1967, a Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, Hydref 1967.

16 Gw. E. Wyn James, ‘Ann Griffiths: Y Cefndir Barddol’, Llên Cymru, 23 (2000), tt. 147–70.

17 Morris Davies, Cofiant Ann Griffiths, tt. 39–40.

18 Morris Davies, Cofiant Ann Griffiths, t. 60.

19 T. J. Morgan, ‘Iaith Ffigurol Emynau Pantycelyn’, yn Ysgrifau Beirniadol VI, gol. J. E. Caerwyn Williams (Dinbych: Gwasg Gee, 1971), t. 111.

20 Derec Llwyd Morgan, ‘Emynau’r Cariad Tragwyddol’, Barddas, 94 (Chwefror 1985), t. 6.

21 J. R. Jones, ‘Ann Griffiths’, Llên Cymru, 8:1–2 (1964), t. 34.

22 Gweler Bobi Jones (gol.), Pedwar Emynydd (Llandybïe: Llyfrau’r Dryw, 1970), tt. 13–16.

23 Gomer M. Roberts (gol.), Gweithiau William Williams, Pantycelyn, cyf. 1 (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1964), t. 121.

24 Derec Llwyd Morgan, Pobl Pantycelyn (Llandysul: Gwasg Gomer, 1986), t. 96; cf. tt. 66–8.

25 D. E. Jenkins, The Life of the Rev. Thomas Charles, cyf. 1, tt. 156–7.

26 Robert Oliver Rees, Mary Jones, Y Gymraes Fechan Heb Yr Un Beibl, argraffiad newydd (Wrecsam: Hughes a’i Fab, 1903), t. 15.

27 Mae’r copi hwnnw o’r Beibl ar gael o hyd. Ceir llun o rai tudalennau ohono yn llyfr Elisabeth Williams, Beibl i Bawb (Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Efengylaidd Cymru, 1988), t. 7.

28 R. Tudur Jones, Thomas Charles o’r Bala: Gwas y Gair a Chyfaill Cenedl, t. 28.

29 Gw. Roger Steer, Good News for the World: The Story of Bible Society (Rhydychen: Monarch Books, 2004).

30 Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt, Casgliadau Cymdeithas y Beibl, BSA/D2/1/3.

31 Llsg Prifysgol Cymru Bangor, 2384; gw. hefyd Dyfed Evans, Bywyd Bob Owen (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1977), tt. 224-5.

32 Helen Ramage, ‘Y Cefndir Cymdeithasol’, yn Y Ferch o Ddolwar Fach, gol. Dyfnallt Morgan, t. 12.


[Fersiwn diwygiedig ar erthygl a ymddangosodd dan y teitl ‘Ann Griffiths, Mary Jones a Mecca’r Methodistiaid’ yn Llên Cymru, 21 (1998). Cyhoeddwyd addasiad Saesneg ohoni yn Eusebeia: The Bulletin of the Jonathan Edwards Centre for Reformed Spirituality (a gyhoeddir dan nawdd y ‘Toronto Baptist Seminary’), rhifyn Hydref 2005.]