jump to main content

Cardiff University
 
Cynnwys
Astudio Ann Griffiths
Testunau digidol
Gwaith Ann Griffiths
Hawlfraint
Gwybodaeth
Cysylltu
 
English (Home)
 
 
Catalog y Llyfrgell
Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Caerdydd

Golygydd: E. Wyn James

I - V | VI - X | XI - XV | XVI - XX | XXI - XXV | XXVI - XXX

 

I

1. O’m blaen mi wela’ ddrws agored,
A modd i hollol gario’r ma’s
Yng ngrym y rhoddion a dderbyniodd
Yr Hwn gymerodd agwedd gwas;
Mae’r tywysogaethau wedi eu hysbeilio,
A’r awdurdodau, ganddo ynghyd,
A’r carcharwr yn y carchar
Trwy rinwedd ei ddioddefaint drud.

2. Fy enaid trist, wrth gofio’r frwydyr,
Yn llamu o lawenydd sydd;
Gweld y ddeddf yn anrhydeddus
A’i throseddwyr mawr yn rhydd;
Rhoi Awdwr bywyd i farwolaeth
A chladdu’r Atgyfodiad mawr;
Dwyn i mewn dragwyddol heddwch
Rhwng nef y nef a daear lawr.

3. Pan esgynnodd ’r Hwn ddisgynnodd
Gwedi gorffen yma’r gwaith,
Y pyrth oedd yn dyrchafu eu pennau
Dan ryfeddu yn eu hiaith;
Dorau’n agor, côr yn bowio
I Dduw mewn cnawd yr ochor draw;
Y Tad yn siriol a’i gwahoddodd
I eistedd ar ei ddeau law.

4. Digon mewn llifeiriant dyfroedd,
Digon yn y fflamau tân,
O! am bara i lynu wrtho,
Fy enaid, byth yn ddiwahân:
Ar ddryslyd lwybrau tir Arabia
Y mae gelynion fwy na rhi’;
Rho gymdeithas dioddefiadau
Gwerthfawr angau Calfari.

II

1. Dyma babell y cyfarfod,
Dyma gymod yn y gwaed,
Dyma noddfa i lofruddion,
Dyma i gleifion feddyg rhad;
Dyma fan yn ymyl Duwdod
I bechadur wneud ei nyth,
A chyfiawnder pur Jehofa
Yn siriol wenu arno byth.

2. Pechadur aflan yw fy enw,
O ba rai y penna’n fyw;
Rhyfeddaf fyth, fe drefnwyd pabell
Im gael yn dawel gwrdd â Duw:
Yno y mae yn llond ei gyfraith
I’r troseddwr yn rhoi gwledd;
Duw a dyn yn gweiddi ‘Digon!’
Yn yr Iesu, ’r aberth hedd.

3. Myfi a anturiaf yno yn eon,
Teyrnwialen aur sydd yn ei law,
A hon a’i senter at bechadur,
Llwyr dderbyniad pawb a ddaw;
Af ymlaen dan weiddi ‘Maddau!’
Af a syrthiaf wrth ei draed,
Am faddeuant, am fy ngolchi,
Am fy nghannu yn ei waed.

4. O! am ddyfod o’r anialwch
I fyny fel colofnau mwg
Yn uniongyrchol at ei orsedd,
Mae yno’n eistedd heb ei wg:
Amen diddechrau a diddiwedd,
Tyst ffyddlon yw, a’i air yn un;
Amlygu y mae ogoniant Trindod
Yn achubiaeth damniol ddyn.

III

1. Bererin llesg gan rym y stormydd,
Cwyd dy olwg, gwêl yn awr
Yr Oen yn gweini’r swydd gyfryngol
Mewn gwisgoedd llaesion hyd y llawr;
Gwregys euraidd o ffyddlondeb,
Wrth ei odrau clychau’n llawn
O sŵn maddeuant i bechadur
Ar gyfri’ yr anfeidrol Iawn.

2. Cofiwch hyn mewn stad o wendid,
Yn y dyfroedd at eich fferau sy,
Mai dirifedi yw’r cufyddau
A fesurir i chwi fry;
Er bod yn blant yr atgyfodiad
I nofio yn y dyfroedd hyn,
Ni welir gwaelod byth nac ymyl
I sylwedd mawr Bethesda lyn.

3. O! ddyfnderoedd iechydwriaeth,
Dirgelwch mawr duwioldeb yw,
Duw y duwiau wedi ymddangos
Yng nghnawd a natur dynol-ryw;
Dyma’r Person a ddioddefodd
Yn ein lle ddigofaint llawn,
Nes i Gyfiawnder weiddi, ‘Gollwng
Ef yn rhydd: mi gefais Iawn!’

4. O! ddedwydd awr tragwyddol orffwys
Oddi wrth fy llafur yn fy rhan,
Ynghanol môr o ryfeddodau
Heb weled terfyn byth, na glan;
Mynediad helaeth byth i bara
I fewn trigfannau Tri yn Un;
Dŵr i’w nofio heb fynd trwyddo,
Dyn yn Dduw, a Duw yn ddyn.

IV

1. Er mai cwbwl groes i natur
Yw fy llwybyr yn y byd,
Ei deithio a wnaf, a hynny’n dawel,
Yng ngwerthfawr wedd dy wyneb-pryd;
Wrth godi’r groes ei chyfri’n goron,
Mewn gorthrymderau llawen fyw;
Ffordd yn uniawn, er mor ddyrys,
I ddinas gyfaneddol yw.

2. Ffordd a’i henw yn ‘Rhyfeddol’,
Hen, a heb heneiddio, yw;
Ffordd heb ddechrau, eto’n newydd,
Ffordd yn gwneud y meirw’n fyw;
Ffordd i ennill ei thrafaelwyr,
Ffordd yn Briod, Ffordd yn Ben,
Ffordd gysegrwyd, af ar hyd-ddi
I orffwys ynddi draw i’r llen.

3. Ffordd na chenfydd llygad barcut
Er ei bod fel hanner dydd,
Ffordd ddisathar anweledig
I bawb ond perchenogion ffydd;
Ffordd i gyfiawnhau’r annuwiol,
Ffordd i godi’r meirw’n fyw,
Ffordd gyfreithlon i droseddwyr
I hedd a ffafor gyda Duw.

4. Ffordd a drefnwyd cyn bod amser
I’w hamlygu wrth angen-rhaid
Mewn addewid gynt yn Eden
Pan gyhoeddwyd Had y Wraig;
Dyma seiliau’r ail gyfamod,
Dyma gyngor Tri yn Un,
Dyma’r gwin sy’n abal llonni,
Llonni calon Duw a dyn.

V

1. Mae’r dydd yn dod i’r had brenhinol
Gael mordwyo tua’u gwlad
O gaethiwed y priddfeini
I deyrnasu gyda’u Tad;
Eu ffydd tu draw a dry yn olwg,
A’u gobaith eiddil yn fwynhad,
Annherfynol fydd yr anthem,
Dyrchafu rhinwedd gwerthfawr waed.

2. Mae fy nghalon am ymadael
 phob rhyw eilunod mwy,
Am fod arni’n sgrifenedig
Ddelw gwrthrych llawer mwy –
Anfeidrol deilwng i’w addoli,
Ei garu, a’i barchu, yn y byd;
Bywyd myrdd o safn marwolaeth
A gafwyd yn ei angau drud.

3. Arogli’n beraidd mae fy nardus
Wrth wledda ar y cariad rhad;
Sêl yn tanio yn erbyn pechod,
Caru delw sancteiddhad;
Torri ymaith law a llygad
Ynghyd ag uchel drem i lawr;
Neb yn deilwng o’i ddyrchafu
Onid Iesu, ’r Brenin mawr.

4. O! am fywyd o sancteiddio
Sanctaidd enw pur fy Nuw
Ac ymostwng i’w ewyllys
A’i lywodraeth tra fwyf byw;
Byw dan addunedu a thalu,
Byw dan ymnerthu yn y gras
Sydd yng Nghrist yn drysoredig
I orchfygu ar y maes.

5. Addurna’m henaid ar dy ddelw,
Gwna fi’n ddychryn yn dy law,
I uffern, llygredd, annuwioldeb,
Wrth edrych arnaf i gael braw;
O! am gymdeithasu â’r Enw,
Ennaint tywalltedig yw,
Yn hallt i’r byd, gan bêr aroglau
O hawddgar ddoniau eglwys Dduw.

Brig


VI

1. O! am gael ffydd i edrych
Gyda’r angylion fry
I drefn yr iechydwriaeth,
Dirgelwch ynddi sy;
Dwy natur mewn un Person
Yn anwahanol mwy,
Mewn purdeb heb gymysgu,
Yn berffaith hollol trwy.

2. O! f’enaid, gwêl addasrwydd
Y Person dwyfol hwn,
Mentra arno’th fywyd
A bwrw arno’th bwn;
Mae’n ddyn i gydymdeimlo
Â’th holl wendidau i gyd,
Mae’n Dduw i gario’r orsedd
Ar ddiafol, cnawd, a byd.

3. Rhyw hiraeth sy am ymadael
Bob dydd â’r gwaedlyd faes,
Nid â’r arch, nac Israel,
Ond hunanymchwydd cas;
Cael dod at fwrdd y Brenin,
A’m gwadd i eiste’n uwch,
A minnau, wan ac eiddil,
Am garu yn y llwch.

4. Er cryfed ydyw’r stormydd
Ac ymchwydd tonnau’r môr,
Doethineb ydyw’r peilat,
A’i enw’n gadarn Iôr;
Er gwaethaf dilyw pechod
A llygredd o bob rhyw,
Dihangol yn y diwedd
Am fod yr arch yn Dduw.

VII

1. Pan fo’r enaid mwya’ gwresog
Yn tanllyd garu’n mwya’ byw,
Y mae’r pryd hynny yn fyr o gyrraedd
Perffaith sanctaidd gyfraith Duw;
O! am gael ei hanrhydeddu
Trwy dderbyn iechydwriaeth rad,
A’r cymundeb mwya’ melys,
Wedi ei drochi yn y gwaed.

2. Rhyfeddu a wna’ i â mawr ryfeddod
Pan ddêl i ben y ddedwydd awr
Caf weld fy meddwl, sy yma’n gwibio
Ar ôl teganau gwael y llawr,
Wedi ei dragwyddol setlo
Ar wrthrych mawr ei Berson Ef,
A diysgog gydymffurfio
 phur a sanctaidd ddeddfau’r nef.

VIII

1. Mae bod yn fyw o fawr ryfeddod
O fewn ffwrneisiau sydd mor boeth,
Ond mwy rhyfedd, wedi ’mhrofi,
Y dof i’r canol fel aur coeth;
Amser cannu, diwrnod nithio,
Eto’n dawel, heb ddim braw;
Y Gwr a fydd i mi’n ymguddfa
Y sydd â’r wyntyll yn ei law.

2. Blin yw ’mywyd gan elynion
Am eu bod yn amal iawn;
Fy amgylchu maent fel gwenyn
O foreddydd hyd brynhawn;
A’r rhai o’m tŷ fy hun yn benna’
Yn blaenori uffernol gad;
Trwy gymorth gras yr wyf am bara
I ryfela hyd at waed.

IX

1. Am fy mod i mor llygredig,
Ac ymadael ynddwy’ i’n llawn,
Mae bod yn dy fynydd sanctaidd
Imi’n fraint oruchel iawn;
Lle mae’r llenni yn cael eu rhwygo,
Mae difa’r gorchudd yno o hyd,
A rhagoroldeb dy ogoniant
Ar ddarfodedig bethau’r byd.

2. O! am bara i uchel yfed
O ffrydiau’r iechydwriaeth fawr
Nes fy nghwbwl ddisychedu
Am ddarfodedig bethau’r llawr;
Byw dan ddisgwyl am fy Arglwydd,
Bod, pan ddêl, yn effro iawn
I agoryd iddo’n ebrwydd
A mwynhau ei ddelw’n llawn.

X

1. O! na bai fy mhen yn ddyfroedd
Fel yr wylwn yn ddi-lai
Am fod Seion, lu banerog,
Yng ngwres y dydd yn llwfrhau;
O! datguddia y colofnau
A wnaed i’w chynnal yn y nos,
Addewidion diamodol
Duw ar gyfri’ angau’r groes.

2. Cofia, Arglwydd, dy ddyweddi,
Llama ati fel yr hydd,
Ac na ad i’r Amaleciaid
Arni’n hollol gario’r dydd;
Mae’r llwynogod ynddi’n rhodio
I ddifwyno’r egin grawn,
S’ceina fwyfwy sy’n ymadael
O foreddydd hyd brynhawn.

3. Deffro, Arglwydd, gwna rymuster,
Cofia lw’r cyfamod hedd,
Gwêl dy Enw mawr dan orchudd
Ar y tystion yn y bedd;
Gair o’th enau, dônt i fyny!
Ti yw’r Atgyfodiad mawr,
Ac argraffiadau yr Enw newydd
Yn ddisglair arnynt fel y wawr.

4. Hwn yw’r ennaint tywalltedig,
Ymddibynnol arno ei hun
I ddwyn gelynion byth yn deilwng
Wrthrychau cariad Tri yn Un;
Mae edifeirwch wedi ei guddio,
Am hyn er neb ni thry yn ôl
Nes bod â’r llafur yn ddihangol
I dragwyddoldeb yn ei gôl.

Brig


XI

1. Yng nglyn wylofain bydd fy ymdaith
Nes im weled dwyfol waed
O’r Graig yn tarddu fel yr afon,
Ynddo yn wynion myrdd a wnaed;
Golau’r Maen i fynd ymlaen,
Sef Iesu yn gyfiawnder glân.

2. Rwy’n hiraethu am yr amser
Y caf ddatguddiad o fy mraint,
Iesu Grist, gwir Bren y Bywyd,
Hwn yw cyfiawnder pur y saint;
Ei gleimio’n ail, a’m cadarn sail,
Yn lle gwag obaith ffigys-ddail.

XII

Rhyfedda fyth, briodas-ferch,
I bwy yr wyt yn wrthrych serch;
O! cenwch, waredigol hil,
Rhagori y mae Fe ar ddeng mil.

XIII

1. Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd
Wrthrych teilwng o fy mryd;
Er mai o ran, yr wy’n adnabod
Ei fod uwchlaw gwrthrychau’r byd:
Henffych fore
Y caf ei weled fel y mae.

2. Rhosyn Saron yw ei enw,
Gwyn a gwridog, teg o bryd;
Ar ddeng mil y mae’n rhagori
O wrthrychau penna’r byd:
Ffrind pechadur,
Dyma ei beilat ar y môr.

3. Beth sy imi mwy a wnelwyf
Ag eilunod gwael y llawr?
Tystio’r wyf nad yw eu cwmni
I’w cystadlu â Iesu mawr:
O! am aros
Yn ei gariad ddyddiau f’oes.

XIV

1. Ni ddichon byd a’i holl deganau
Fodloni fy serchiadau yn awr,
A enillwyd, a ehangwyd,
Yn nydd nerth fy Iesu mawr;
Ef, nid llai, a eill eu llenwi,
Er mai diamgyffred yw;
O! am syllu ar ei Berson,
Fel y mae Fe’n ddyn a Duw.

2. O! na chawn i dreulio ’nyddiau
Yn fywyd o ddyrchafu ei waed;
Llechu’n dawel dan ei gysgod,
Byw a marw wrth ei draed;
Caru’r groes, a phara i’w chodi,
Am mai croes fy Mhriod yw;
Ymddifyrru yn ei Berson
A’i addoli byth yn Dduw.

XV

Mewn môr o ryfeddodau,
O! am gael treulio f’oes,
Ar dir pechadur aros
A byw ar waed y groes,
A chael caethiwo’m meddwl
Oll i ufudd-dod Crist,
A chydymffurfio â’i gyfraith,
Bod drosto’n ffyddlon dyst.

Brig

XVI

Ni ddaeth i fwrdd cyfiawnder Duw
Wrth gofio pechod
Ond cysgodau o’r sylwedd byw
Oedd i ddyfod;
Y Jiwbili, pan ddaeth i ben,
Y llen a rwygwyd,
A’r ddeddf yn Iesu ar y pren
A ddigonwyd.

XVII

Nac edryched neb i gloffi
Arnaf, am fy mod yn ddu;
Haul, a gwres ei belyderau,
Yn tywynnu’n danbaid arnaf sy:
Mae a’m cuddia
Cysgod llenni Solomon.

XVIII

Pan gymerodd pechod aflan
Feddiant ar y cyntaf ddau,
Duw y cariad aeth dan rwymau
Yn ei hanfod i gasáu;
Eto’n caru ac yn achub
Yr un gwrthrychau o’i ddwyfol lid
Mewn ffordd gyfiawn, heb gyfnewid,
Ond perffaith fod yr un o hyd.

XIX

1. O! am dreiddio i’r adnabyddiaeth
O’r unig wir a’r bywiol Dduw
I’r fath raddau a fo’n lladdfa
I ddychmygion o bob rhyw;
Credu’r gair sy’n dweud amdano,
A’i natur ynddo, amlwg yw,
Yn farwolaeth i bechadur
Heb gael Iawn o drefniad Duw.

2. Yn yr adnabyddiaeth yma
Mae uchel drem yn dod i lawr,
Dyn yn fach, yn wael, yn ffiaidd,
Duw’n oruchel ac yn fawr;
Crist yn ei gyfryngol swyddau,
Gwerthfawr anhepgorol yw;
Yr enaid euog yn yr olwg
A’i gogonedda megis Duw.

XX

1. Mae’r Duw anfeidrol mewn trugaredd,
Er mai Duw y cariad yw,
Wrth ei gofio, imi’n ddychryn,
Imi’n ddolur, imi’n friw;
Ond ym mhabell y cyfarfod
Mae Fe yno’n llawn o hedd,
Yn Dduw cymodlon wedi eistedd,
Heb ddim ond heddwch yn ei wedd.

2. Yno mae fy mwyd a ’niod,
Fy noddfa a’m gorffwysfa wiw,
Fy meddyginiaeth a fy nhrysor,
Tŵr cadarn anffaeledig yw;
Yno mae fy holl arfogaeth
Yn wyneb fy ngelynion cas;
Mae ’mywyd i yno yn guddiedig
Pan wy’ i yn ymladd ar y ma’s.

3. Cael Duw’n Dad, a Thad yn noddfa,
Noddfa’n graig, a’r graig yn dwr,
Mwy nis gallaf ei ddymuno
Gyda mi mewn tân a dwr;
Ohono Ef mae fy nigonedd,
Ynddo trwy fyddinoedd af;
Hebddo, eiddil, gwan a dinerth,
A cholli’r dydd yn wir a wnaf.

Brig

XXI

Ei law aswy sy’n fy nghynnal
Dan fy mhen yng ngwres y dydd,
A bendithion ei ddeheulaw
Yn cofleidio’m henaid sydd;
Tynghedaf chwi, bwysïau natur,
Sy’n prydferthu daear lawr,
Na chyffrôch, hyd oni fynno,
Fy nghariad a’m gogoniant mawr.

XXII

1. Rhyfedd, rhyfedd gan angylion,
Rhyfeddod fawr yng ngolwg ffydd,
Gweld Rhoddwr bod, Cynhaliwr helaeth
A Rheolwr pob peth sydd,
Yn y preseb mewn cadachau
A heb le i roi ei ben i lawr,
Ac eto disglair lu’r gogoniant
Yn ei addoli’n Arglwydd mawr.

2. Pan fo Sinai i gyd yn mygu
A sŵn yr utgorn uwcha’ ei radd,
Caf fynd i wledda tros y terfyn
Yng Nghrist y Gair heb gael fy lladd;
Mae ynddo’n trigo bob cyflawnder,
Llond gwagle colledigaeth dyn;
Ar yr adwy rhwng y ddwyblaid
Gwnaeth gymod trwy ei offrymu ei hun.

3. Efe yw’r Iawn fu rhwng y lladron,
Efe ddioddefodd angau loes,
Efe a nerthodd freichiau ei ddienyddwyr
I’w hoelio yno ar y groes;
Wrth dalu dyled pentewynion,
Ac anrhydeddu deddf ei Dad,
Cyfiawnder, mae’n disgleirio’n danbaid
Wrth faddau yn nhrefn y cymod rhad.

4. O! f’enaid, gwêl y fan gorweddodd
Pen brenhinoedd, Awdwr hedd,
Y greadigaeth ynddo’n symud,
Yntau’n farw yn y bedd;
Cân a bywyd colledigion,
Rhyfeddod fwya’ angylion nef;
Gweld Duw mewn cnawd a’i gydaddoli
Mae’r côr, dan weiddi ‘Iddo Ef!’

5. Diolch byth, a chanmil diolch,
Diolch tra bo ynwy’ i chwyth,
Am fod gwrthrych i’w addoli
A thestun cân i bara byth;
Yn fy natur wedi ei demtio
Fel y gwaela’ o ddynol-ryw,
Yn ddyn bach, yn wan, yn ddinerth,
Yn anfeidrol wir a bywiol Dduw.

6. Yn lle cario corff o lygredd,
Cyd-dreiddio â’r côr yn danllyd fry
I ddiderfyn ryfeddodau
Iechydwriaeth Calfari;
Byw i weld yr Anweledig,
Fu farw ac sy’n awr yn fyw;
Tragwyddol anwahanol undeb
A chymundeb â fy Nuw.

7. Yno caf ddyrchafu’r Enw
A osododd Duw yn Iawn,
Heb ddychymyg, llen, na gorchudd,
A’m henaid ar ei ddelw’n llawn;
Yng nghymdeithas y dirgelwch,
Datguddiedig yn ei glwy’,
Cusanu’r Mab i dragwyddoldeb
Heb im gefnu arno mwy.

XXIII

1. Os rhaid wynebu’r afon donnog,
Mae Un i dorri grym y dŵr,
Iesu, f’Archoffeiriad ffyddlon,
A chanddo sicir afael siŵr;
Yn ei gôl caf weiddi ‘Concwest!’
Ar angau, uffern, byd, a bedd,
Tragwyddol fod heb fodd i bechu,
Yn ogoneddus yn ei wedd.

2. Melys gofio y cyfamod
Draw a wnaed gan Dri yn Un,
Tragwyddol syllu ar y Person
A gymerodd natur dyn;
Wrth gyflawni yr amodau,
Trist iawn hyd angau ei enaid oedd;
Dyma gân y saith ugeinmil
Tu draw i’r llen â llawen floedd.

3. Byw heb wres na haul yn taro,
Byw heb allu marw mwy,
Pob rhyw alar wedi darfod,
Dim ond canu am farwol glwy’;
Nofio yn afon bur y bywyd,
Diderfyn heddwch sanctaidd Dri,
Dan d’w’niadau digymylau
Gwerthfawr angau Calfari.

XXIV

1. Gwna fi fel pren planedig, O! fy Nuw,
Yn ir ar lan afonydd dyfroedd byw,
Yn gwreiddio ar led, a’i ddail heb wywo mwy,
Ond ffrwytho dan gawodydd dwyfol glwy’.

2. Gwlad dda, heb wae, gwlad wedi ei rhoi dan sêl,
Llifeirio mae, a’i ffrwyth o laeth a mêl;
Grawnsypiau gwiw i’r anial dir sy’n dod;
Gwlad nefol yw, uwchlaw mynegi ei chlod.

3. Jehofa yw, yn un â’i Enw pur,
Cyflawnwr gwiw ei addewidion gwir;
Mae’n codi ei law, cenhedloedd ddaw i maes,
Nodedig braw’ o’i rydd anfeidrol ras.

4. Cenhadon hedd, mewn efengylaidd iaith,
Sy’n galw i’r wledd dros fôr yr India faith;
Caiff Hotentots, Goraniaid dua’ eu lliw,
Farbaraidd lu, eu dwyn i deulu Duw.

XXV

A raid i’m sêl, oedd farwor tanllyd
Unwaith dros dy ogoniant gwiw,
A charedigrwydd fy ieuenctid,
Fynd yn oerach at fy Nuw?
Breswylydd mawr yr uchelderau,
Yn awr datguddia’th wyneb llon,
A diddyfna fy enaid bellach
Oddi ar fronnau’r greadigaeth hon.

Brig

XXVI

Mae sŵn y clychau’n chwarae
Wrth odrau Iesu mawr
Ac arogl y pomgranadau
I’w clywed ar y llawr;
Maddeuant i bechadur
Yn effeithio i fwynhad,
Er mwyn yr aberth difai
A lwyr fodlonai’r Tad.

XXVII

Cofia ddilyn y medelwyr,
Ymhlith ’r ysgubau treulia dy oes;
Pan fo mynydd Sinai’n danllyd,
Gwlych dy damaid wrth y groes;
Gwêl ddirgelwch mawr duwioldeb,
Cafwyd allor wrth dy droed,
Duw a dyndod arno yn diodde’,
Llef am ole’ i ganu ei glod.

XXVIII

Y mae dyfroedd iechydwriaeth
A’u rhinweddau mewn parhad,
Y mae ynddynt feddyginiaeth
Anffaeledig ac yn rhad;
Deuwch, gleifion codwm Eden,
I ddefnyddio’r dyfroedd hyn;
Ni bydd diwedd byth ar rinwedd
Sylwedd mawr Bethesda lyn.

XXIX

Mi gerdda’n ara’ ddyddiau f’oes
Dan gysgod haeddiant gwaed y groes,
A’r yrfa redaf yr un wedd,
Ac wrth ei rhedeg sefyll wnaf,
Gweld iechydwriaeth lawn a gaf
Wrth fynd i orffwys yn y bedd.

XXX

Dyma Frawd a anwyd inni
Erbyn c’ledi a phob clwy’;
Ffyddlon ydyw, llawn tosturi,
Fe haeddai gael ei foli’n fwy:
Rhyddhawr caethion, Meddyg cleifion;
Ffordd i Seion union yw;
Ffynnon loyw, Bywyd meirw;
Arch i gadw dyn yw Duw.

Brig